Arfer Effeithiol |

Cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Share this page

Nifer y disgyblion
236
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Bu’r ysgol yn rhan o gynllun peilot ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ (YSD) a thrwy ddatblygu’r meddylfryd yma ar bob lefel ar draws yr ysgol, gwelwyd fod y staff yn gallu symud fel un mewn sawl cyd-destun a gyda sawl agwedd o’u cynlluniau.

Fel ysgol arweiniol yn y maes datblygu Cwricwlwm i Gymru (CiG), darparwyd cyflwyniad i benaethiaid y dalgylch y Sir. Roedd yr adborth yn hynod bositif mewn cyfnod o newidiadau mawr ar lefel lleol a chenedlaethol. Gwelwyd fod yr egwyddorion a manteision y dull yma o weithio am fod yn arf pwerus i ddatblygu cydweithio rhwng ysgolion y dalgylch gyda’r nod o sicrhau lefel o gysondeb i ddisgyblion y dalgylch pa bynnag yr ysgol yr oeddynt yn mynychu.

Mae’r dalgylch wedi bod yn cydweithio yn agos ers sawl blwyddyn bellach ac yn parhau i rannu ac efelychu arferion effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Drwy ddefnyddio’r ddogfen ‘Y daith i 2022’ fel fframwaith, dulliau a meddylfryd YSD a fforymau cyfranogiad y disgyblion, mae’r ysgol wedi llwyddo datblygu gweledigaeth gytûn ar gyfer CiG gyda llais pob un o’r rhanddeiliaid yn glir ac amlwg.

Mae’r grwpiau canlynol wedi’u trefnu yn yr ysgol ac yn y dalgylch i ddatblygu blaenoriaethau, i hyrwyddo datblygiad y cwricwlwm, ac i ganolbwyntio ar ddatblygu’r strategaethau dysgu:

 

Lefel ysgol staff: 
Grwpiau MDaPh staff yr ysgol – mae holl staff yr ysgol, boed yn athrawon a chymorthyddion, wedi eu rhannu yn ôl y Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh). Nid oes cydlynwyr pwnc bellach ond yn hytrach timau gyda chyfrifoldeb o ddatblygu’r meysydd. Mae gan yr ysgol flaenoriaeth, sydd yn gyfrifoldeb i’r dirprwy, i ddatblygu addysgeg yn yr ysgol. Datblygwyd dosbarth Gwgl CiG i’r holl staff i yrru’r flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn a chreu adnodd hawdd i gael mynediad ato a chydweithio arno. Roedd yr adnodd yma yn hwyluso gweithredu ysgol gyfan, rhannu gwybodaeth a syniadau, casglu barn a monitro gwahanol agweddau o’r egwyddorion addysgegol. Yn gyntaf, defnyddiwyd meddalwedd ‘Microsoft Forms’ i bob athro hunan arfarnu yn erbyn pob llinyn o’r 12 egwyddor cyn trosglwyddo y wybodaeth yma i offeryn dadansoddi 12 egwyddor addysgegol ysgol gyfan. Roedd hyn yn ein caniatau i adnabod meysydd i’w datblygu. 

Bu i adnabod y llinynau canlynol ar gyfer gweithredu:

  1. Gwerthuso darpariaeth bresennol yn erbyn y 4 diben
  2. I ba raddau mae’r ysgol wedi cynnwys ei holl randdeiliaid wrth lunio’r weledigaeth ar gyfer galluogi pob disgybl i gyflawni’r 4 diben
  3. Waliau dysgu

Cynhaliwyd nosweithiau HMS i rannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil a chydosod targedau tymhorolar gyfer gweithredu sef – datblygu  waliau ddysgu byw ar draws yr ysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r 4 diben ymysg y disgyblion a’r rhieni.

Yn dilyn hyn bu cyfnod treialu ar lawr y dosbarthiadau gyda’r staff yn bwydo’r ffrwd gwgl ac yn cynnwys yr hyn oedd yn gweithio yn effeithiol. Gosodwyd nod erbyn diwedd y cyfnod treialu i greu taith ddysgu digidol ‘Beth weithiodd yn dda i mi….?’ Bu HMS dilynnol i bob athro gyflwyno ei sleidiau i weddill y staff. Yn dilyn hyn roeddym yn gallu cytuno fel ysgol ar drefn benodol ar gyfer ein waliau dysgu sydd bellach yn addas i oedran y disgyblion ac yn gyson ar draws yr ysgol. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith uniongyrchol ar ddulliau gwella gwaith ar lawr pob dosbarth ac yn plethu gyda’r drefn asesu ffurfiannol. 

Mae’r broses gyfan wedi dilyn egwyddorion ‘YSD’ a bydd yn parhau i esblygu.

 


Lefel plant yr ysgol: 
Mae gan y grwpiau cyfranogiad disgyblion gyfrifoldebau penodol ac maent yn ysgrifennu cynllun gweithredu yn flynyddol, sydd yn rhan annatod o’r cynllun datblygu ysgol (CDY). Mae un grŵp yn cydweithio’n agos gyda’r dirprwy er mwyn datblygu addysgeg yn yr ysgol, e.e drwy ddatblygu’r polisi adborth, datblygu gweledigaeth cymuned gyfan a chreu matiau 4 diben. Mae llais y disgybl yn amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol.

 

Lefel dalgylchol:  
Mae blaenoriaethau dalgylchol yn cael eu llunio, wrth i un aelod o bob ysgol yn y dalgylch gyd-gynllunio hanfodion y flaenoriaeth ac yna ei phersonoli ar lefel ysgol, e.e. grŵp addysgeg, grŵp TGCh, grŵp ADY. Mae hyn yn estyniad naturiol o GDY yr ysgol unigol lle mae adnabod blaenoriaethau cytûn ac yn adnabod ysgol / ysgolion fydd yn gallu arwain y blaenoriaeth ar draws y dalgylch er mwyn i bob ysgol symud i’r un cyfeiriad, gan gydnabod fod ysgolion unigol mewn gwahanol lefydd parthed y flaenoriaeth. Mae hyn yn ei dro, yn esgor ar gyfleoedd eang a gwerthfawr i staff yr ysgol ddatblygu’n broffesiynol, i arwain staff ac i gael dylanwad positif tu hwnt i’r hysgol. Mae hefyd wedi newid meddylfryd ysgolion y dalgylch i ystyried yr hyn sydd yn bwysig i’r dalgylch, yn ogystal â’r hyn sydd yn bwysig i’r ysgolion unigol. 

Defnyddir y dull ‘model rhesymeg’ (Logic Model) i gynllunio’r blaenoriaethau – model a dull penodol o gynllunio gwelliant. Mae’r model wedi’i rannu yn bedair rhan – adnoddau, gweithredu, mewnbwn ac allbwn ac yn fodd effeithiol o rannu gyda rhanddeiliaid yr hyn ydym eisiau gyflawni, sut ydym yn bwriadu cyrraedd ein targedau a sut y byddwn yn tracio cynnydd. Mae modelau rhesymeg yn helpu’r ymarferwyr a’r gwerthuswyr i ddeall mecanwaith a strwythur ein rhaglen wella ac yn arwain at wella dulliau gweithio a safonau. I gefnogi’r dull yma o weithio, cynhelir cyfarfodydd dalgylchol fesul hanner tymor i fonitro cynnydd y flaenoriaeth, i addasu pan gyfyd yr angen, i rannu syniadau pellach ac i gynnal momentwm ar draws y dalgylch. O ganlyniad i’r dull yma o weithio, mae sawl deilliant cadarnhaol, e.e. gwefan dysgu cyfunol rhanbarthol a chyflwyniadau rhyngwladol.

Mae grwpiau MDaPh ar draws ysgolion y dalgylch (cynradd ac uwchradd) wedi eu sefydlu ac yn cael eu harwain gan benaethiaid cynradd, ar gyfer dehongli a deall cynnwys, manteisio ar arbenigeddau, a datblygu’r cwricwlwm mewn dull cyson er lles ac addysg disgyblion y dalgylch cyfan. Mae gwefan ar gyfer rhannu’r adnoddau wedi ei chreu hefyd a wedi ei sefydlu fel bod pob aelod o staff yn y dalgylch yn gallu manteisio arni. Mae hyn yn ei dro wedi sicrhau fod arbenigeddau staff ar draws yr ysgol a’r dalgylch yn cael eu rhannu wrth iddynt gyflwyno gweithgareddau ysgogol ar y platfform digidol. Bellach mae staff yr ysgol a staff y dalgylch yn symud i’r un cyfeiriad, o’r un meddylfryd ac yn dechrau datblygu starategaethau dysgu cyson.  

Mae grŵp ‘Cyngor Ysgol Cefni’, sy’n gynrychiolaeth o bob ysgol yn y dalgylch (cynradd ac uwchradd) yn dilyn hyfforddiant gan Ysgol Corn Hir, wedi creu arwyddair newydd, “Ein Dysgu, Ein Dyfodol”, sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Mae cynrychiolaeth o’r holl ysgolion yna wedi dod at ei gilydd i rannu eu harwyddeiriau newydd ac i greu un addas ar gyfer y dalgylch cyfan.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol ar drac i sicrhau fod pob aelod o staff yn deall gofynion CiG ac wedi ei harfogi gyda’r strategaethau mwyaf addas ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm yn y modd mwyaf effeithiol. Er enghraifft, defnyddir waliau gweithio yn fwriadus a chyson ar draws yr ysgol gyfan ar gyfer cyflwyno a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd neu’r datblygiad o fatiau Y 4 diben

Mae llais y dysgwr a’r rhanddeiliaid yn gryf nid yn unig yn y cynllunio ar gyfer y cwricwlwm ond yn y strategaethau sy’n cael eu defnyddio er mwyn cyflwyno a datblygu’r cwricwlwm. Esiampl dda o hyn yw’r dulliau a ddefnyddir i gasglu syniadau rhieni a phlant yn electronig gan blethu’r syniadau yma i gynllun gwaith y dosbarth.

Mae cyfranogiad y disgyblion yn eu gwersi a’u hawydd i ddysgu yn rhagorol - maent  yn perchnogi eu dysgu ac yn gweld eu hunain fel rhan o dîm yr ysgol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae arferion y dalgylch a’r ysgol, e.e. creu blaenoriaethau dalgylchol neu sesiynau hyfforddi a chlinigau adfyfyrio yn yr ysgol ynghyd â’r gwaith a wneir gan gyngor ysgol dalgylchol er mwyn gwella’r trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd yn cael eu rhannu drwy fforymau lleol, e.e. fforwm arfer dda Ynys Môn, drwy’r cyfarfodydd grwpiau dalgylchol mesul hanner tymor a thrwy’r ymgynhorwyr gwelliant neu’r swyddogion addysg. Mae’r bartneriaeth grêf yn y dalgylch yn golygu fod pob ysgol yn barod i rannu. Mae gwaith a dulliau gweithredu yr ysgol wedi cael eu rhannu drwy gyfeiriadau gan y consortiwm rhanbarthol, gyda sawl ysgol yn dod i weld ein harferion effeithiol – o fewn a thu hwnt i’r Sir. Mae’r gwaith wnaethpwyd ar adborth wedi ei ddefnyddio gan swyddogion mewn cyadleddau rhanbarthol a byd-eang.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd - Hydref 2014

pdf, 644.94 KB Added 01/10/2014

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn 2013-2014. ...Read more