Arfer Effeithiol |

Cynllunio ar gyfer gwelliant i sicrhau’r profiadau dysgu gorau ar gyfer y disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
683
Ystod oedran
11-18

Cefndir

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol Gymraeg yn awdurdod Penybont. Mae oddeutu 683 o ddisgyblion yn yr ysgol, tua 118 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae bron i 16% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 20.2%. Mae tua 30% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref. 

Cyd-destun

Wrth ymgorffori egwyddorion Cwricwlwm i Gymru mae’r ysgol wedi rhoi ffocws ar gysoni a datblygu addysgeg effeithiol. Er mwyn gwireddu hyn mireiniwyd cyfundrefnau datblygiad proffesiynol staff ynghyd â’r prosesau monitro ac arfarnu er mwyn eu halinio a sicrhau cylch cyson o werthuso a gwella ac er mwyn cynnig y profiadau dysgu gorau ar gyfer y disgyblion.  

Beth wnaeth yr ysgol

Sylweddolodd arweinwyr bod caffael ar ddarlun cywir a chyfredol o safonau’r ddarpariaeth bresennol yn holl bwysig er mwyn gallu dylunio a gweithredu rhaglen datblygiad proffesiynol oedd yn ymateb i anghenion y staff tra’n gwireddu amcanion y Cynllun Datblygu Ysgol. Datblygwyd cyfundrefnau digidol ysgol gyfan er mwyn casglu canfyddiadau holl weithgareddau monitro ar bob lefel mewn ffordd cyson, gan gynnwys teithiau dysgu, craffu ar waith, grwpiau ffocws a holiaduron barn. Rhennir calendr monitro ysgol gyfan er mwyn i Uwch Arweinwyr Maes ac Arweinwyr Adran gynllunio gweithgareddau amserol a sicrhau trosolwg cytbwys ar draws meysydd a grwpiau o ddisgyblion. Mae hyn yn caniatáu mynediad canolog i wybodaeth gynhwysfawr a thryloyw ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn er mwyn archwilio effaith strategaethau ysgol gyfan ac ardaloedd i’w datblygu ymhellach, sydd yn eu tro yn bwydo’r rhaglen hyfforddi staff. 

Mae arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn datblygu ac yn mireinio systemau yn rheolaidd gan wneud defnydd cyson o adborth gan staff a disgyblion. Drwy gydweithredu ysgol gyfan datblygwyd strwythur ‘Gwers Llan’ sy’n cael ei defnyddio’n gyson ar draws yr ysgol. Mae strwythur cytûn o’r fath yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ddysgu ymhlith y disgyblion wrth i ddisgwyliadau cyson leihau’r gofynion gwybyddol sydd arnynt wrth symud o wers i wers. Gyda phob athro yn gwneud defnydd o strwythur gytûn mae’r cyfundrefnau monitro yn caniatáu i arweinwyr adnabod os oes agwedd sydd angen ei chryfhau gan sicrhau ei bod, yn ei thro yn ffurfio rhan o’r rhaglen datblygiad proffesiynol. Mae’r ysgol wedi cynllunio amser priodol ar gyfer hyfforddiant a gweithgareddau datblygiad proffesiynol drwy adeiladu gwers ychwanegol ar ddiwedd dydd Iau unwaith bob cylch amserlen tair wythnos. Yn ystod y sesiwn hwn mae modd gwireddu’r rhaglen datblygiad proffesiynol heb dynnu ar yr amser sydd gan adrannau a meysydd i drafod addysgeg a gweithredu ar ofynion ysgol gyfan.  

Cydnabu arweinwyr bod angen datblygu ethos o hunan-fyfyrio parhaus ymhlith staff er mwyn sicrhau bod pob athro yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gynyddu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i ddealltwriaeth yn gyson. O ganlyniad, addaswyd trefniadau rheoli perfformiad er mwyn rhoi ffocws ar ddatblygiad parhaus yr unigolyn tra’n cadw aliniad agos gyda deilliannau’r hunan arfarniad a phrosesau monitro. Mae pennu amcanion yn broses agored a chefnogol lle rhoddir cyfle i staff ac arweinwyr eu trafod a’u mireinio yn unol â’r Cynllun Datblygu yn ystod tymor yr hydref. Datblygir dogfen gofnodi, sef y Cynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus, sy’n ymarferol i staff ei weinyddu. Mae’r ddogfen hon â throsolwg chwe mlynedd er mwyn sicrhau bod yr amcanion a ddewisir yn adeiladol ac yn cefnogi datblygiad parhaus. Rhoddir ffocws ar ddysgu ac addysgu wrth bennu amcanion gyda phwyslais ar gynnydd yn hytrach na chyrhaeddiad disgyblion. Disgwylir bod staff yn cydweithredu ar weithgaredd ymchwil blynyddol fel rhan o’r broses. Mae hwn wedi arwain at ymarferwyr mwy hyderus a blaengar sy’n barod i arbrofi, myfyrio a lledaenu unrhyw lwyddiannau a heriau a welwyd yn eu gwaith gyda’u cydweithwyr drwy weithgaredd ‘Llwyfan Llan’. Adlewyrchir pwysigrwydd y Cynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus drwy ddarparu amser bob hanner tymor i staff ei ddiweddaru.  

Effaith

O ganlyniad i’r gweithgareddau hyn, mae’r ysgol yn meithrin brwdfrydedd pob aelod o staff ac yn eu hannog i fod yn chwilfrydig ynghylch dysgu a gwella’u harferion yn barhaus er mwyn darparu’r profiadau dysgu gorau ar gyfer disgyblion.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. ...Read more
Adroddiad thematig |

Partneriaethau ôl-16 - Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau

Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar gynllunio a gwaith partneriaeth strategol ar gyfer addysg dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach. ...Read more
Adroddiad thematig |

Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profi adau niweidiol yn ystod plentyndod

pdf, 731.93 KB Added 16/01/2020

Mae’r adroddiad yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. ...Read more