Adroddiad thematig |

Partneriaethau ôl-16 - Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau

Share this page

Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar gynllunio a gwaith partneriaeth strategol ar gyfer addysg dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach. Mae’n rhoi trosolwg o’r ffordd y mae chweched dosbarth ysgolion prif ffrwd yn gweithio gyda’i gilydd a gyda cholegau addysg bellach i gefnogi dysgwyr i astudio’r cyrsiau ôl-16 sy’n diwallu eu hanghenion a’u galluoedd orau.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Sicrhau gwaith partneriaeth cryf i ddatblygu darpariaeth gydweithredol â darparwyr eraill lle mae hyn yn helpu i wella ansawdd neu ehangu dewis
  • A2 Sicrhau bod darpariaeth ôl-16 a gyflwynir mewn partneriaeth â darparwyr eraill yn cael ei hategu gan gytundebau ysgrifenedig o gyfrifoldebau, ac y caiff ei chynnwys yn llawn o fewn prosesau cynllunio gwelliant
  • A3 Sicrhau bod cyngor ac arweiniad i ddysgwyr yn ddiduedd, yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, ac yn cael ei lywio gan y ddarpariaeth, y safonau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 lleol
  • A4 Rhannu gwybodaeth i gefnogi cyfnod pontio dysgwyr i ddarparwyr eraill, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru
  • A5 Cyflwyno gwybodaeth gywir am y rhaglenni y mae dysgwyr yn eu dilyn, yn cynnwys darparwr pob gweithgaredd dysgu, fel rhan o’u cyflwyniadau data blynyddol i Lywodraeth Cymru

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Sicrhau bod cynllunio strategol yn cynnwys y gymuned ehangach o ysgolion a cholegau lleol
  • A7 Gweithio gyda cholegau ar weithgareddau dysgu proffesiynol ar y cyd, lle bo’n briodol
  • A8 Gweithio gyda cholegau i sicrhau bod ystod addas o ddarpariaeth ôl-16 ar gael yn lleol trwy gyfrwng y Gymraeg

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A9 Adolygu ac atgyfnerthu deddfwriaeth, polisi ac arweiniad ar gyfer darpariaeth ôl-16 i sicrhau cysondeb ac eglurder disgwyliadau mewn ffordd sy’n adeiladu ar ddatblygiadau’r Cwricwlwm i Gymru
  • A10 Cymhwyso dull cyson i oruchwylio a monitro ansawdd darpariaeth ôl-16, yn cynnwys ystyriaethau cynllunio a chyllido
  • A11 Rhoi gwybodaeth glir i ddarpar ddysgwyr a’u rhieni am gynnydd a deilliannau dysgwyr ar gyfer chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru
  • A12 Sicrhau bod unrhyw Gomisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol yn mynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad thematig hwn

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol