Arfer Effeithiol |

Arweinyddiaeth gadarn yn cefnogi addysg gynnar gyffrous

Share this page

Nifer y disgyblion
15
Ystod oedran
1-4
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gweledigaeth yr arweinydd wedi ei sefydlu’n gadarn ar ddarparu addysg gynnar gyffrous o safon uchel i blant yr ardal.  Mae ganddi wybodaeth fanwl am ddatblygiad plant, ynghyd â dealltwriaeth gref o egwyddorion y cyfnod sylfaen.  Mae gan bob ymarferydd ddisgwyliadau uchel ar gyfer y plant ac maent yn gweithio fel tîm effeithiol wrth drafod cyflawniad plant er mwyn cynllunio’r camau nesaf yn y dysgu. Maent yn sicrhau bod pob un plentyn yn hapus a diogel ac yn gwneud cynnydd da, beth bynnag fo’u gallu.

Mae’r pwyllgor rheoli yn cyflawni eu rolau yn hynod effeithiol gan eu bod yn adnabod y lleoliad yn arbennig o dda.  Yn sgil hyn, maent yn cefnogi’r cylch yn rymus er mwyn sicrhau safonau a darpariaeth o’r radd flaenaf.  Maent yn parchu arbenigedd yr ymarferwyr ac yn gwerthfawrogi'r gweithgareddau a chynnydd y mae’r plant yn cyflawni yn y lleoliad.

Mae’r ymarferwyr, y pwyllgor rheoli a’r rhieni yn chwarae rhan annatod yn y gweithdrefnau hunanwerthuso sy’n onest ac sy’n blaenoriaethu addysgu a dysgu.  Mae’r holl randdeiliaid yn cyfrannu at osod meini prawf llwyddiant clir,  sy’n seiliedig ar gynnydd plant.  Mae hyn yn arwain yn effeithiol at ddatblygiadau cadarnhaol iawn yn y ddarpariaeth.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae profiad a deallusrwydd yr arweinydd o egwyddorion addysgu a darpariaeth addysg gynnar yn feistrolgar.  Rhoddir blaenoriaeth haeddiannol i lais y dysgwr ymhob agwedd o waith y lleoliad. Mae’r ymarferwyr yn gwrando yn ofalus ar y plant ac yn defnyddio syniadau’r plant fel sbardun ar gyfer themâu, ardaloedd dysgu ac arddangosfeydd.  Maent yn cynnwys teuluoedd wrth gynllunio’r thema gan holi ac elwa ar arbenigedd rhieni ac aelodau’r gymuned leol.  Mae’r ymarferwyr yn plethu gweithgareddau llythrennedd a rhifedd yn gelfydd ar draws y meysydd dysgu, gan gynnwys gweithgareddau heriol sy’n berthnasol i’r ardal allanol.  Mae hyn wedi arwain at ddarpariaeth hynod ysgogol, sydd â disgwyliadau uchel iawn ohoni hi ei hun a’i chydweithwyr.  Mae’r staff yn rhannu gwybodaeth am weithdrefnau dyddiol, cynnydd plant a strategaethau addysgu yn llwyddiannus iawn.  Mae hyn yn sicrhau bod plant yn gwneud cynnydd ardderchog. 

Mae’r pwyllgor yn hynod gefnogol ac yn rhagweithiol wrth weithredu’n ddiflino i gefnogi’r staff gyda’u gwaith.  Mae llinellau cyfathrebu ac atebolrwydd rhwng yr arweinydd a’r pwyllgor yn hynod effeithiol ac mae hyn yn galluogi swyddogion y pwyllgor i wneud penderfyniadau gwybodus er budd y plant.  Wrth i swyddogion y pwyllgor ymweld â’r lleoliad yn rheolaidd mae ganddynt wybodaeth fanwl ynglŷn â safonau a strategaethau addysgu a dysgu.  Gan eu bod yn adnabod y lleoliad mor dda, maent yn deall ac yn cefnogi anghenion y ddarpariaeth yn llwyddiannus iawn.  Er enghraifft, maent yn sicrhau adnoddau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar godi safonau ac yn cynnwys adnoddau arbenigol ar gyfer unigolion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r gweithdrefnau arwain cadarn, mae egwyddorion y cyfnod sylfaen yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus iawn a’r plant yn datblygu eu medrau’n hynod llwyddiannus.

Mae medrau llafar, darllen ac ysgrifennu cynnar y plant, ynghyd â’u medrau rhifedd yn datblygu’n hynod gadarn.  Mae gweithgareddau fel defnyddio idiomau a geirfa fathemategol wrth ddarganfod pa esgid sy’n ffitio pa blentyn yn y siop esgidiau yn ymestyn a herio’r plant.  Mae hyn yn dylanwadu’n effeithiol ar ddyfalbarhad a dygnwch y plant wrth ganolbwyntio’n frwd yn eu tasgau. Mae’r ardal allanol yn sicrhau ffocws clir ar ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd penodol.  Mae’r ymarferwyr yn gelfydd wrth holi a chyd-chwarae gyda’r plant.  Mae hyn yn meithrin awydd y plant i fynegi eu hunain yn hyderus.

Mae’r pwyllgor rheoli yn cael effaith uniongyrchol ar safonau uchel wrth sicrhau bod pob ymarferwr yn manteisio ar hyfforddiant perthnasol.  Yn sgil cyfarfodydd buddiol, maent yn ymwybodol o effaith hyfforddiant ar safonau a lles y plant.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Cynhaliwyd hyfforddiant i arweinyddion newydd a modiwlau cyfnod sylfaen yn y lleoliad.  Rhannwyd esiamplau o’r ddarpariaeth a safonau cyrhaeddiad y plant yn rheolaidd ar safle we genedlaethol i athrawon cyfnod sylfaen a staff nas cynhelir yn genedlaethol.  Rhennir yr arfer wrth gefnogi hyfforddiant i ysgolion.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol