Arfer Effeithiol |

Ailffurfio gweledigaeth yr ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
807
Ystod oedran
3-18
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a Chefndir

Mae Ysgol y Gadeirlan yn ysgol ddydd annibynnol i fechgyn a merched rhwng 3 a 18 oed.  Mae’r ysgol gerllaw Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn ninas Caerdydd.  Fe’i sefydlwyd ym 1880 ac mae Woodard Corporation, sef elusen addysgol, wedi bod yn berchen arni er 1957.  Mae’r ysgol yn disgrifio’i hun fel ysgol gôr Anglicanaidd.  Mae ganddi berthynas agos ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae’n darparu bechgyn côr ac ysgolorion corawl (merched) i gefnogi traddodiad corawl yr Eglwys Gadeiriol.

Er 2012, bu galw cynyddol am leoedd a chynnydd sydyn yn nifer y disgyblion.  Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi nifer o strategaethau llwyddiannus ar waith i amlygu a datblygu ymhellach ymdeimlad y disgyblion o gymuned a’u cyfrifoldeb tuag at ei gilydd ac i’r byd o’u cwmpas.  Mae datblygu gweledigaeth gyffredin ar draws yr ystod oedran 3 i 18 oed, cyfleoedd arwain newydd i staff a disgyblion, a rhyngweithio agos rhwng arweinwyr academaidd a bugeiliol, wedi helpu i feithrin gwerthoedd fel parch, goddefgarwch, caredigrwydd a thosturi.  Mae’r gwerthoedd sylfaenol hyn yn treiddio drwy gymuned yr ysgol gyfan ac yn helpu disgyblion i ddatblygu hunanhyder, ennill amrywiaeth eang o fedrau bywyd pwysig a datblygu’n ddinasyddion gweithgar a gwybodus.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

1. Meithrin gweledigaeth gyffredin a phwrpasol ynghylch cymuned yr ysgol, gan gynnwys rhieni, staff a disgyblion

Yn 2016, yn sgil penodi pennaeth newydd, amlygodd y llywodraethwyr gyfle i ailffurfio’r uwch dîm arweinyddiaeth ac ailddatgan gweledigaeth yr ysgol.  Cynhaliodd yr ysgol dri arolwg eang eu cyrhaeddiad gyda rhieni, a sicrhaodd fod arweinwyr yn ennill dealltwriaeth glir o farn pob rhiant am gryfderau’r ysgol ynghyd ag unrhyw feysydd perthnasol i’w datblygu.  Cynhaliodd y pennaeth gyfarfodydd wythnosol gyda disgyblion a chyfarfu â’r holl aelodau staff yn unigol.  Fe wnaeth hyn alluogi pob rhanddeiliaid i gyfrannu’n ystyrlon at y weledigaeth ysgol gyfan.

Daeth nifer o linynnau i’r amlwg o’r cyfarfodydd hyn a wnaeth, gyda’i gilydd, lunio datganiadau ethos yr ysgol.  Dwy egwyddor allweddol yn y weledigaeth gyffredin hon oedd cysyniadau gofal ac arweinyddiaeth.  Diffiniwyd gofal fel galluogi cymuned gynhwysol sy’n meithrin dealltwriaeth, parch ac empathi tuag at bawb, datblygu cydwybod gymdeithasol a moesol weithgar, a gwasanaethu eraill er budd pawb.  Y diffiniad o arweinyddiaeth a ddaeth i’r amlwg oedd ysbrydoli eraill i gyflawni diben cyffredin, gwrando, dysgu a gweithio gyda’n gilydd, gan sicrhau bod pob llais yn cyfrif.

Mae’r cysyniadau hyn yn sylfaen i bob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad disgyblion.  Fe’u gwreiddiwyd yn yr ysgol trwy gyfarfodydd â rhieni, gwasanaethau boreol ac yn ystod amser dosbarth.  Y camau nesaf oedd sicrhau bod systemau’r ysgol yn galluogi’r weledigaeth hon i droi’n realiti.

2. Sefydlu strwythurau bugeiliol effeithiol ar draws yr ystod oedran 3-18 oed

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, gweithredwyd llinellau atebolrwydd clir a chyfleoedd newydd ar gyfer arweinyddiaeth gan y staff.  Buddsoddodd y llywodraethwyr adnoddau sylweddol mewn sicrhau bod y dull hwn yn effeithiol.  

  1. Goruchwyliaeth gan Uwch Arweinwyr: Penodwyd pennaeth cynorthwyol â chyfrifoldeb am ddiogelu, gyda chylch gwaith estynedig.  Roedd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am ddatblygiad cymdeithasol, moesol, ysbrydol a diwylliannol disgyblion, a chyfrifoldeb rheolwr llinell am raglen datblygiad personol (PHME) yr ysgol, ac am gwnselydd yr ysgol.
  2. Llinellau atebolrwydd clir drwy arweinwyr canol: Sefydlwyd rolau rheolwyr canol ar gyfer arwain y rhaglen PHME, gan greu adran yn cwmpasu’r ystod oedran 3-18 oed.  Fe wnaeth hyn alluogi i fframwaith cydlynol gael ei sefydlu ac i arbenigedd gael ei rannu’n effeithiol.  Neilltuwyd amser ychwanegol yn y cwricwlwm ar gyfer PHME a sefydlwyd rhaglen a allai ymateb yn hyblyg i anghenion disgyblion, ac ar yr un pryd gynnig arweiniad clir a phriodol i oedran er mwyn datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol yr holl ddisgyblion.
  3. Cefnogaeth i arweinwyr bugeiliol: Cafodd system y tai, sy’n ganolog i’r ddarpariaeth fugeiliol i’n disgyblion, ei chryfhau yn sgil ychwanegu meistr / meistres tŷ cynorthwyol, i sicrhau y gellid olrhain lles disgyblion yn effeithiol ac amlygu a gweithredu ar unrhyw ymyriadau angenrheidiol yn amserol.

ch) Disgwyliadau uchel ar gyfer pob athro: Cafodd rôl y tiwtor dosbarth ei hailddiffinio.  Bellach, mae pob tiwtor yn addysgu PHME a rhoddwyd mwy o bwyslais ar adroddiadau bugeiliol.  Cafodd cyfleoedd hyfforddi i gynorthwyo tiwtoriaid a hybu arferion gorau eu cynnwys yn y rhaglen hyfforddiant mewn swydd.  

  1. Darpariaeth fugeiliol ychwanegol i ddisgyblion: Yn ogystal â chwnselydd yr ysgol, hyfforddwyd dau gynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol newydd fel y gellid ymateb yn gyflym i’r pryderon bugeiliol yr oedd y disgyblion yn eu hwynebu.

3. Cryfhau sylfaen ysbrydol yr ysgol

Gwnaed ethos Cristnogol cryf yr ysgol yn fwy perthnasol i bob disgybl drwy’r ‘munud i feddwl’ wythnosol, sy’n cael ei lunio gan y caplan a’r pennaeth astudiaethau crefyddol.Mae hyn yn sylfaen i wasanaethau boreol yr ysgol, gwasanaethau capel wythnosol, gwasanaethau ysgol gyfan yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a thrafodaethau yn ystod amser tiwtor. Mae’r ffocws cyffredin hwn, yr adeiladir arno ar lefel sy’n briodol i oedran ar draws yr ysgol, yn dathlu llwyddiannau disgyblion mewn amrywiaeth o feysydd datblygu personol (er enghraifft llwyddiant mewn chwaraeon, dinasyddiaeth weithgar a charedigrwydd tuag at eraill).Mae’n galluogi staff a disgyblion i ymroi i feithrin gwerthoedd fel parch, goddefgarwch, caredigrwydd a thosturi, a deall eu rhan yn hynny.

4. Rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddod yn ddinasyddion gweithgar

Ar yr un pryd, cydnabuwyd bod angen i ddisgyblion gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain ac am les yr ysgol yn ei chyfanrwydd.  Cryfhawyd llais y chweched dosbarth trwy ehangu tîm arweinyddiaeth y myfyrwyr a rhoi cyfleoedd penodol i’r disgyblion ddylanwadu ar y blaenoriaethau yng nghynllun datblygu’r ysgol a rhoi adborth arnynt.  Yn ddiweddarach, cafodd hyn ei ymestyn i alluogi pob disgybl i gyfrannu trwy’r cynghorau disgyblion.  Cyflwynwyd diwrnodau hyfforddiant i fyfyrwyr-arweinwyr a disgybl-arweinwyr ar draws y cyfnodau allweddol.  Mae gan bobl ifanc gyfrifoldeb am arwain digwyddiadau tŷ penodol, fel yr Eisteddfod a’r diwrnod chwaraeon, a chaiff pob disgybl yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 gyfle i arwain gwasanaeth bob blwyddyn.  Mae mentrau’r disgyblion, fel ‘Project Rainbow’, sef y gymdeithas LHDTC+ a sefydlwyd gan y disgyblion, yn cael eu hannog a’u cefnogi trwy amser y staff.  Yn yr adran gynradd, caiff pob disgybl gyfle i ymgymryd â rôl arwain bob blwyddyn.  Caiff yr agwedd hon ei monitro gan athrawon dosbarth, sy’n annog ac yn cefnogi disgyblion llai hyderus i ymgymryd â rôl sydd o ddiddordeb iddynt.

O ganlyniad, mae disgyblion yn gallu datblygu’u hunanhyder ac ennill amrywiaeth fawr o fedrau bywyd pwysig.

5. Rhyngweithio agos rhwng monitro academaidd a bugeiliol.

Mae gan Ysgol y Gadeirlan enw da am lwyddiant academaidd rhagorol.  Fodd bynnag, roedd staff yn cydnabod yn gryf fod canlyniadau rhagorol mewn arholiadau yn dibynnu ar les bugeiliol disgyblion.  O ganlyniad, neilltuwyd amser fel rhan o raglen hyfforddiant mewn swydd wythnosol yr ysgol, i arweinwyr bugeiliol lywio ymyriadau ar gyfer disgyblion sy’n tanberfformio.  Datblygwyd strwythur clir ar gyfer adroddiadau bugeiliol yn yr adran uwch gan ddefnyddio ymchwil gan yr Educational Endowment Foundation.  Ddwywaith y flwyddyn, mae tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiol ar ddatblygiad pob disgybl mewn meysydd allweddol, sy’n cefnogi’u lles cymdeithasol a moesol.  Ochr yn ochr ag olrhain academaidd, mae disgyblion a myfyrwyr hŷn yn cwblhau arolwg am eu lles bob hanner tymor.  O ganlyniad, mae disgyblion yn ymwybodol bod yr ysgol yn cymryd eu lles o ddifrif ac mae canlyniadau’r arolygon yn galluogi targedu ymyrraeth gynnar yn ofalus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r dull cydlynol hwn a’r mentrau cysylltiedig wedi bod yn strategaethau hynod effeithiol ar gyfer hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.  Mae ystod y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion wedi cynyddu ac mae ei ansawdd yn well hefyd.  Mae’r rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig yn cynnwys y caplan, yr arweinwyr bugeiliol, yr athrawon dosbarth, y cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol, y cynorthwywyr cyntaf iechyd meddwl, y cynorthwywyr cymheiriaid hyfforddedig a chwnselydd yr ysgol.  Mae’r staff hyn yn gweithredu o fewn system gydlynol ac integredig.  Mae nifer y myfyrwyr hŷn sy’n mentora disgyblion iau ag anghenion emosiynol neu addysgol wedi cynyddu ac mae’r ysgol wedi gweld cynnydd hefyd yn nifer y bobl ifanc sy’n ceisio cyfleoedd dinasyddiaeth y tu allan i’r ysgol, er enghraifft sefyll ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru neu ddylunio rhaglen gyfrifiadurol sy’n gallu adnabod negeseuon gwe-rwydo.  Mae disgyblion wedi chwarae rhan weithgar yn llywio a chreu polisïau’r ysgol, er enghraifft trwy bwyso am wahardd poteli plastig un-tro ar draws yr ysgol.  Rhoddwyd y polisi hwn ar waith yn llwyddiannus ym Medi 2018.   

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Fel ysgol sy’n ganolbwynt i raglen datblygiad personol Jigsaw, mae Ysgol y Gadeirlan wedi cynnal digwyddiadau hyfforddi i ysgolion eraill, yn ogystal â chynnal seminarau ar les a diogelu ar ran Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.  Mae’r ysgol yn aelod o’r Rhwydwaith Ysgolion Trefol, cydweithrediad anffurfiol o Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd, ac mae wedi gweithio i ddatblygu prosiect Gofod Gweddïo Blwyddyn 5 ar y cyd, yn canolbwyntio ar wirionedd a chyfiawnder, a phrosiect ar y cyd i Gymorth Cristnogol.  Mae disgyblion yr ysgol, ynghyd â disgyblion a myfyrwyr o ysgolion lleol eraill, wrthi’n cydweithio ar Fenter Aer Glân i Landaf ar hyn o bryd. 

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Esblygu dulliau dysgu cyfunol mewn ysgolion annibynnol

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion annibynnol prif ffrwd wedi gwerthuso a mireinio dulliau dysgu cyfunol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Uchelgais yw’r allwedd i lwyddiant

Mae Ysgol y Gadeirlan wedi datblygu diwylliant o atebolrwydd drwy ei phroses hunanarfarnu gadarn, drwy’r her y mae’n ei chynnig i ddisgyblion a thrwy ei harferion addysgu cadarn. ...Read more
Arfer Effeithiol |

I Fyny Fo’r Nod!

Cafodd rhaglen ‘Gwobr y Pennaeth’ yn Ysgol y Gadeirlan ei chynllunio i gynnig ffocws a chyflawniad yng nghyfnod allweddol 3 er mwyn sicrhau bod disgyblion yn parhau i wneud cynnydd pan fyddant yn c ...Read more