Arfer Effeithiol

Uchelgais yw’r allwedd i lwyddiant

Share this page

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol ddydd annibynnol gydaddysgol yw Ysgol y Gadeirlan yng Nghaerdydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Mae’r ysgol wedi bod yn awyddus i ddatblygu ansawdd hunanarfarnu trwy ddefnyddio tystiolaeth uniongyrchol er mwyn creu diwylliant o atebolrwydd ymhlith staff a disgyblion fel ei gilydd.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Ym Medi 2010, penododd yr ysgol fentoriaid athrawon allanol yn ymgynghorwyr i’r staff ar eu haddysgu. Yn ogystal ag arsylwadau addysgu a gynhelir gan uwch reolwyr, mae’r mentoriaid athrawon hyn (un yn y sector cynradd, un yn y sector uwchradd) yn arsylwi’r addysgu gan bob un o’r staff yn rheolaidd. Maent yn rhoi adborth i athrawon ar y gwersi y maent wedi’u harsylwi gan roi ffocws i agweddau penodol ar yr addysgu. Mae’r mentoriaid yn arolygwyr profiadol sy’n gweithio ar sail ymgynghorol i’r ysgol. Nid ydynt yn rhan o hierarchaeth yr ysgol, ac maent yn gweithredu fel ffrind beirniadol. Trafodir y cofnod arsylwi gwers yn fanwl gyda’r athro ar ôl y wers, a rhoddir copi i’r pennaeth sy’n ei ddefnyddio fel rhan o’r dystiolaeth uniongyrchol ar gyfer hunanarfarniad yr ysgol.

Mae mentoriaid yn ymweld pob wythnos ar ddiwrnodau gwahanol i sicrhau eu bod, dros flwyddyn academaidd, yn arsylwi ystod eang o addysgu a bod pob athro’n cael ei weld yn debyg o ran rheoleidd-dra. Mae pob mentor yn cyflwyno adroddiad tymhorol yn nodi cryfderau cyffredin mewn addysgu a’r meysydd hynny y mae angen eu datblygu ymhellach. Rhennir yr adroddiadau gyda’r staff ac maent yn sylfaen ar gyfer hyrwyddo arfer dda ymhlith athrawon.

Cyflwynwyd ‘Graddau Her’ ym Medi 2010 i ymateb i angen am ddefnyddio data academaidd yn well a monitro cynnydd disgyblion trwy bob cyfnod allweddol yn fwy effeithiol. Mae’r system wedi’i modelu ar arfer cyd-ysgol Woodard. Yn y sector uwchradd, caiff disgyblion brofion MidYIS pan fyddant yn dechrau ym Mlwyddyn 7, a defnyddir y data hwn i nodi’r radd y mae’r disgybl yn fwyaf tebygol o’i chael mewn TGAU ym mhob pwnc. Mae’r ysgol yn ychwanegu gradd lawn at hwn, ac fe gaiff y radd ddilynol ei galw’n ‘Radd Her’ (h.y. y radd yr ydym yn herio’r disgybl i’w chyflawni mewn TGAU). Bob chwe wythnos, caiff cyrhaeddiad disgyblion ym mhob pwnc ei gymharu â’u ‘Gradd Her’. Dyfernir gradd adolygu o +1, 0, -1 or -2 (yn nodi perfformiad uchod uwchlaw, yr un fath â, islaw neu ymhell islaw’r ‘Radd Her’) ac mae’r athro’n rhoi targed ar gyfer gwella. Trafodir yr adolygiad hwn rhwng tiwtoriaid dosbarth a’u disgyblion, a chytunir ar dargedau cyffredinol ar gyfer gwella. Gall rhieni ymateb i’r adolygiad pan gaiff ei anfon adref.

Ym Medi 2011, estynnwyd y ‘Graddau Her’ i gyfnod allweddol 2. Nodir ‘Graddau Her’ ar gyfer Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, hanes a daearyddiaeth. Mae’r graddau hyn wedi’u seilio ar lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol sy’n deillio o asesiadau safonedig ar ddiwedd cyfnod allweddol 1. Defnyddir symbolau lliw yn lle graddau adolygu i ddangos pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r ‘Graddau Her’ hyn.

Mae’r Adolygiadau Blynyddol bob mis Medi gan bob adran a rhan o’r ysgol yn rhan allweddol arall o hunanarfarniad academaidd yr ysgol. Mae’r adolygiadau hyn yn nodi tystiolaeth o gryfderau a meysydd i’w datblygu mewn nifer o feysydd, fel cyflawniad academaidd, addysgu a dysgu, paratoi a hyfforddiant ac yn dangos strategaethau gwella addas. Mae’r broses yn arfarniad mewnol agored a realistig sydd wedi’i gynllunio i fod yn adeiladol a datblygiadol. Y ddogfen adolygu a’r cynllun datblygu adrannol sy’n ffurfio sylfaen y drafodaeth rhwng y pennaeth adran, y pennaeth a’r cyfarwyddwr astudiaethau. Caiff rhestr fer o bwyntiau gweithredu ei llunio, sy’n darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer symud yr adran yn ei blaen. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn, ailedrychir ar y pwyntiau gweithredu i asesu’r cynnydd a wnaed. Cynhelir Adolygiad Blynyddol gan yr adran iau ac adran y babanod.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r fenter ‘Graddau Her’ yn y sectorau cynradd ac uwchradd fel ei gilydd, wedi gwella’r defnydd effeithiol o ddata yn fawr, mae wedi gwella ansawdd yr adrodd i rieni, hyrwyddo uchelgais ymhlith y disgyblion a’u hathrawon, hwyluso trafodaeth ystyrlon rhwng disgyblion a thiwtoriaid am safonau a chynnydd, ac wedi galluogi disgyblion i fesur eu cyflawniad yn erbyn eu potensial, yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd. Mae’r cyfnod byr rhwng pob adolygiad, pan fydd llechen lân, yn golygu bod gan ddisgyblion amserlen hylaw i wella. Fe wnaeth y canlyniadau TGAU yn 2011 ddangos cydberthynas gref iawn rhwng ‘Graddau Her’ a’r graddau a gyflawnodd y disgyblion.

Mae’r adroddiadau tymhorol gan y mentoriaid allanol yn adlewyrchu gwelliant mewn addysgu a dysgu. Mae disgyblion hefyd wedi gwneud sylwadau am welliannau mewn dulliau addysgu ac ansawdd eu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan.

Mae data gwerth ychwanegol ar ddiwedd cyfnodau allweddol 2 a 4 yn dangos bod bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Esblygu dulliau dysgu cyfunol mewn ysgolion annibynnol

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion annibynnol prif ffrwd wedi gwerthuso a mireinio dulliau dysgu cyfunol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Ailffurfio gweledigaeth yr ysgol

Bu llywodraethwyr yn Ysgol y Gadeirlan yn gweithio gyda phennaeth newydd i ailffurfio’r tîm arweinyddiaeth a diweddaru gweledigaeth yr ysgol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

I Fyny Fo’r Nod!

Cafodd rhaglen ‘Gwobr y Pennaeth’ yn Ysgol y Gadeirlan ei chynllunio i gynnig ffocws a chyflawniad yng nghyfnod allweddol 3 er mwyn sicrhau bod disgyblion yn parhau i wneud cynnydd pan fyddant yn c ...Read more