Ysgol Heulfan - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Wrecsam

Ysgol Heulfan

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Uno’r ddarpariaeth trwy weledigaeth gynhwysol

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer cynhwysiant sy’n treiddio trwy bob agwedd ar ei gwaith. Mae arweinwyr yn sicrhau bod y ddarpariaeth brif ffrwd a’r ddarpariaeth arbenigol yn cyd-fynd yn dda. Mae staff yn cynllunio profiadau dysgu dilys sy’n dod â disgyblion o wahanol ddosbarthiadau a lleoliadau ynghyd, gan gynnwys y rhai o ddarpariaeth arbenigol yr awdurdod lleol. Mewn gweithgareddau ar y cyd, fel prosiectau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae disgyblion hŷn yn ymfalchïo yn eu rôl fel mentoriaid, ac mae’r disgyblion iau yn ymateb yn dda i’w cymorth. Mae’r dull cynhwysol hwn yn galluogi disgyblion ag ystod o anghenion a heriau i gydweithio’n llwyddiannus. Mae’n helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cryfhau medrau cyfathrebu a chreu amgylchedd dysgu unedig. Yn ogystal, mae athrawon yn dysgu oddi wrth gydweithwyr ar draws gwahanol gyfnodau a lleoliadau.

Manylion

Cyfeiriad

Ysgol Heulfan
Sunny View
Off First Avenue
Gwersyllt Wrexham
LL11 4HS