Dileu rhwystrau rhag dysgu, cefnogi ymgysylltiad disgyblion a phresenoldeb rheolaidd
Mae tîm ‘Dileu Rhwystrau’ yr ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth nodi a chefnogi disgyblion a allai wynebu heriau o ran eu dysgu a’u lles. Mae’r tîm, sy’n cynnwys uwch arweinwyr, arweinwyr canol a chynorthwywyr cymorth dysgu, yn cyfarfod yn wythnosol i ystyried disgyblion y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Maent yn ystyried anghenion dysgu disgyblion ochr yn ochr â ffactorau ehangach, fel amgylchiadau teuluol, lles, diogelu a phresenoldeb. Mae’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn helpu staff i nodi cymorth ac ymyriadau priodol ar gyfer disgyblion unigol. Yna, mae’r tîm yn monitro cynnydd a lles y disgyblion hyn yn ofalus, gan adolygu effaith y cymorth a ddarperir a’i addasu lle bo angen i sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth effeithiol ac amserol. Mae hyn yn fuddiol iawn wrth gefnogi lles disgyblion unigol ac yn cael effaith gadarnhaol iawn ar wella cyfraddau presenoldeb.