Adroddiad thematig |

Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion

Share this page

Adroddiad thematig | 12/06/2019

pdf, 2.01 MB Added 12/06/2019

Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion. Nid yw rhai o’r ysgolion a ddefnyddir fel enghreifftiau yn yr adroddiad hwn wedi’uhenwi oherwydd natur sensitif yr achos dan sylw. Nid yw’r enghreifftiau o reidrwydd yn dod o’r ysgolion y gwnaethom ymweld â nhw fel rhan o’r arolwg; gallent fod wedi dod hefyd o sail dystiolaeth arolygu ehangach Estyn.

Argymhellion

 
Dylai ysgolion:
  • A1 Ddatblygu ymagwedd drefnus, ysgol gyfan, sy’n cefnogi iechyd a llesiant pob disgybl
  • A2 Cryfhau’r perthnasoedd rhwng staff a disgyblion a pherthnasoedd cymheiriaid rhwng disgyblion
  • A3 Gwella ansawdd addysgu a phrofiadau dysgu o ran iechyd a llesiant, o fewn cwricwlwm eang a chytbwys
  • A4 Cyfrif yn well am farn disgyblion ac ymchwil academaidd wrth ddatblygu’u dulliau o gefnogi iechyd a llesiant disgyblion
  • A5 Sicrhau bod amgylchedd yr ysgol a’i gwasanaethau yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion
 
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
  • A6 Gynorthwyo ysgolion i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant
  • A7 Cefnogi gweithio effeithiol rhwng ysgolion ac asiantaethau eraill er lles pennaf plant a phobl ifanc a’u teuluoedd
 
Dylai darparwyr addysg gychwynnol athrawon:
  • A8 Sicrhau bod athrawon newydd wedi’u hyfforddi i ddeall datblygiad plant a’r glasoed a’u bod wedi’u paratoi i gefnogi iechyd a llesiant disgyblion
 
Dylai Llywodraeth Cymru:
  • A9 Sicrhau bod y dulliau atebolrwydd a ddefnyddir yn y system addysg yn rhoi pwys ar iechyd a llesiant disgyblion

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol