Darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau digidol disgyblion
Mae disgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn effeithiol ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) mewn gwersi cyfrifiadura, ac mewn ystod o bynciau ar draws y cwricwlwm. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio’n dda mewn gwersi ‘Dysgu Byw’, addysg bersonol a chymdeithasol, gwersi her medrau, a hefyd wrth gwblhau heriau menter. Yn yr achosion hyn, mae disgyblion yn: creu taenlenni a gweithio’n dda gyda fformiwlâu i gyflawni ystod o dasgau dadansoddi, fel ystyried gorwariant a thanwariant posibl mewn cyllidebau o dan wahanol senarios, archwilio manteision ac anfanteision cyfryngau cymdeithasol a datblygu dealltwriaeth gref o sut i gadw’n ddiogel ar-lein, trafod yr ystyriaethau moesegol sy’n gysylltiedig â chynrychioli delweddau rhywiol ar-lein a’u heffaith ar hunaniaeth, delwedd, enw da ac iechyd meddwl a datblygu gwefannau neu ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i gyflwyno eu syniadau, gan ddefnyddio ystod o gymwysiadau i olygu ac ymgorffori cynnwys amlgyfrwng.