Ysgol Bro Pedr - Estyn
Pob oed - Cyngor Sir Ceredigion

Ysgol Bro Pedr

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Datblygu darllen

Mae’r ysgol wedi darparu hyfforddiant i staff ar strategaethau darllen penodol fel ‘Darllen dan arweiniad’ a ‘Pawen Lawen’ er mwyn arfogi disgyblion i ddatblygu eu medrau darllen. O ganlyniad, mae’r disgyblion yn elwa ar gyfleoedd buddiol i wella’r medrau hyn. Maent yn darllen testun yn effeithiol gan ffocysu ar y rhag ddarllen, yn ystod y darllen ac ar ôl y darllen er mwyn dyfnhau dealltwriaeth. Mae gan lawer o ddisgyblion strategaethau megis adeiladu geiriau a defnyddio cyd-destun i allu darllen y gair yn gywir. Wrth ddarllen ar goedd, mae mwyafrif y disgyblion iau yn darllen yn glir ac ystyrlon, gan fynegi goslef priodol. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn deall testunau’n effeithiol, yn cywain gwybodaeth berthnasol ac yn amlygu prif bwyntiau. Mae ychydig o ddisgyblion oedran uwchradd yn benodol, yn dadansoddi’n feirniadol trwy gymharu a gwahaniaethu rhwng safbwyntiau awduron neu feirdd yn y sesiynau Cymraeg a Saesneg neu ffynonellau yn y sesiynau hanes. Maent yn llunio casgliadau ystyriol o’r hyn maent wedi ei ddarllen. Mae’r diwylliant darllen yn cael ei hyrwyddo’n llwyddiannus ar draws yr ysgol, gan feithrin agweddau cadarnhaol disgyblion tuag at ddarllen er mwyn pleser.

Manylion

Cyfeiriad

Ysgol Bro Pedr
Teras Ffynnonbedr
Llambedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7BX