Ymgorffori disgwyliadau uchel i gefnogi llwyddiant dysgwyr - Estyn

Ymgorffori disgwyliadau uchel i gefnogi llwyddiant dysgwyr

Arfer effeithiol

B-WBL at Pembrokeshire College

Oedolyn yn pwyntio at banel rheoli trydanol tra bod tri dysgwr yn gwylio mewn ystafell ddosbarth neu weithdy.

Gwybodaeth am y darparwr   

Mae Consortiwm B-wbl yn ddarparwr hirsefydledig prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon o ddeg darparwr, sydd ag ethos ar y cyd o welliant parhaus, yn gweithio mewn diwylliant o gydweithio, tryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda gweledigaeth i gyflawni rhagoriaeth. Mae’r bartneriaeth yn cyflwyno prentisiaethau ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch i ryw 4500 o ddysgwyr ar draws ystod o feysydd dysgu. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod gweledigaeth strategol a diwylliant ar y cyd Consortiwm B-wbl yw gweithio tuag at greu amgylchedd dysgu ac addysgu sy’n rhoi llwyddiant, profiad a dyheadau dysgwyr wrth wraidd gwneud penderfyniadau. Mae’r cynllun strategol yn cynnwys chwe nod, gyda ffocws allweddol nid yn unig ar wella deilliannau ond gweithio i ddatblygu prentisiaid sy’n hynod fedrus, yn greadigol, yn hyderus ac yn llwyddiannus. Wrth weithio tuag at y nod hwn, mae gan ddarparwyr a’u staff ddisgwyliadau uchel o’u prentisiaid, gan feithrin perthnasoedd hynod effeithiol sy’n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a gweithio i sicrhau eu bod yn datblygu ffyrdd ystyrlon i wella’u profiadau a herio dysgwyr i godi eu dyheadau.  

Mae camau gweithredu yn y cynllun datblygu ansawdd a’r rhaglen dysgu proffesiynol wedi cynnwys ffocws cryf ar ddatblygu dulliau sy’n gwella’r profiadau dysgu ac  addysgu  gyda  ffocws  ar  sut  gall y darparwr ymestyn a herio prentisiaid yn unol â’u hanghenion a’u dyheadau unigol. Mae partneriaid wedi datblygu ystod o ffyrdd yn gysylltiedig â sectorau ac anghenion  unigol  sy’n  canolbwyntio ar gefnogi ein prentisiaid i ymgysylltu’n gadarnhaol a dod yn unigolion angerddol a llawn cymhelliant, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan eu cyflogwyr.       

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gan y darparwr ddisgwyliadau dyheadol ar gyfer pob un o’r dysgwyr ac mae hyn wedi arwain at ddatblygu ystod o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar ymestyn profiadau dysgwyr a hyrwyddo perchnogaeth dysgwyr i ychwanegu gwerth at raglenni.  

Cyfranogiad mewn cystadlaethau i godi uchelgeisiau 

Mae gan ddarparwyr o fewn y rhwydwaith ffocws cryf ar gystadlaethau medrau fel ffordd o ymestyn profiadau a datblygu dysgwyr hyderus ac uchelgeisiol. Yn 2025, llwyddodd 23 o brentisiaid ar draws y rhwydwaith mewn cystadlaethau medrau, ac aeth nifer o’r rhain ymlaen i gynrychioli Cymru yn UK Skills a World Skills. Mae darparwyr yn defnyddio ystod o gystadlaethau mewnol mewn sectorau fel gwallt a harddwch, hefyd, i alluogi prentisiaid i arddangos eu medrau a dysgu oddi wrth ei gilydd.  

Dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr o addysgu, dysgu ac asesu

Mae nodwedd o’r rhaglen dysgu proffesiynol wedi canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau effeithiol sy’n mynd ati i annog ein prentisiaid i gymryd perchnogaeth o’u cynnydd a’u rhaglen. Mae’r dull hwn wedi canolbwyntio ar ddatblygu hyder ymarferwyr mewn deall rhwystrau a chymhellion eu prentisiaid i sicrhau cyfleoedd i ymestyn profiadau a sicrhau y gwneir y gorau o lwyddiant. Mae cynadleddau ymarferwyr wedi canolbwyntio ar osod targedau effeithiol a chraff sy’n gyrru ac yn hyrwyddo perchnogaeth. Mae hyn wedi cynnwys sut mae gosod targedau, holi effeithiol, asesu craff ac adborth adeiladol yn gallu sicrhau bod themâu yn gysylltiedig â datblygu medrau, lles, diogelu, eithafiaeth a’r Gymraeg yn cael eu hymgorffori’n ystyrlon ac yn ychwanegu gwerth.  

Mae partneriaid a’u staff wedi datblygu dulliau arloesol lle maent yn gweithio’n agos gyda’u prentisiaid i nodi sut mae agweddau ar ddiogelwch ar-lein, diogelu a gwerthoedd Prydeinig yn alinio â chymwysterau a’r sectorau y maent yn gweithio ynddynt. Mae staff hefyd yn gweithio’n agos gyda phrentisiaid i ddatblygu ffyrdd y gallant ymgorffori’r Gymraeg yn y gweithle ac yn datblygu syniadau i wella’u medrau. Un ffocws allweddol yw dull sy’n ceisio datblygu dysgwyr hyderus ac uchelgeisiol.  

Ehangu Rhaglenni

Mae darparwyr wedi datblygu ffyrdd arloesol o ehangu rhaglenni i ddiwallu anghenion cyflogwyr, ond hefyd yn bodloni dyheadau dysgwyr sy’n ceisio gwneud cynnydd o fewn y sector o’u dewis. Mae dulliau o fewn ein rhwydwaith wedi cynnwys sesiynau rhagarweiniol i’r lefel uwchlaw, gan alluogi dysgwyr i gael cyfle i ymgysylltu â phwnc ar lefel uwch i gefnogi dilyniant. Mae prentisiaid yn cwblhau cymwysterau ychwanegol mewn cerbydau modur o amgylch cerbydau hybrid i gynorthwyo â chyfleoedd cyflogaeth. Mewn prentisiaethau trydanol, mae dysgwyr yn gweithio tuag at y 18fed Argraffiad i’w cynorthwyo i baratoi ar gyfer elfennau asesu allanol y rhaglen. Mae prentisiaid wedi mynychu tripiau ac ymweliadau hefyd i roi mewnwelediad i’w llwybr gyrfa dewisol a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Yn sgil y ffocws ar y cyd ar sicrhau bod dysgwyr yn llwyddiannus ac yn gallu elwa ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel, mae deilliannau wedi gwella, tra’n datblygu’r medrau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud yn dda yn y gwaith.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

I rannu arfer dda, mae’r darparwr yn defnyddio cyflwyniadau mewn cyfarfodydd consortiwm i rannu dulliau i ymestyn profiadau dysgwyr. Mae partneriaid yn rhannu dulliau i ymestyn a herio’r modd y maent yn ymestyn profiad dysgwyr. Mae grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n benodol i sector wedi rhannu ffyrdd arloesol o gefnogi dysgwyr. Mae cyfarfodydd hefyd yn rhannu llwyddiannau dysgwyr a staff trwy adroddiadau canmoliaeth ac astudiaethau achos.  

Mae seremoni wobrau flynyddol yn dathlu’r teithiau ysbrydoledig i lwyddiant y mae dysgwyr wedi eu cyflawni a’r effaith a gânt ar y busnesau y maent yn gweithio oddi mewn iddynt. Mae hunanwerthuso yn amlygu’r cyflawniad ar draws y consortiwm. Mae enillwyr cystadlaethau medrau yn gweithio fel llysgenhadon o fewn y rhwydwaith darparwyr yn rhannu eu profiadau gydag eraill a’r rhwydwaith ehangach.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn