Creu diwylliant cadarnhaol i gefnogi gwydnwch a lles dysgwyr - Estyn

Creu diwylliant cadarnhaol i gefnogi gwydnwch a lles dysgwyr

Arfer effeithiol

B-WBL at Pembrokeshire College

Oedolyn a pherson iau yn eistedd wyneb yn wyneb mewn lleoliad cartrefol, yn siarad tra bod un person yn ysgrifennu nodiadau ar glipfwrdd.

Gwybodaeth am y darparwr 

Mae Consortiwm B-wbl yn ddarparwr hirsefydledig prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon o ddeg darparwr, sydd ag ethos ar y cyd o welliant parhaus, yn gweithio mewn diwylliant o gydweithio, tryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda gweledigaeth i gyflawni rhagoriaeth. Mae’r bartneriaeth yn cyflwyno prentisiaethau ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch i ryw 4500 o ddysgwyr ar draws ystod o feysydd dysgu. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Mae’r gronfa lles ariannol, a sefydlwyd i ddechrau yn 2015, yn ddyfarniad dewisol i ddysgwyr ar raglenni prentisiaeth i gynorthwyo â chyfraniad tuag at gostau sy’n eu cefnogi i gyflawni eu rhaglen ddysgu. Mae’r gronfa, a sefydlwyd i ddechrau i gefnogi dysgwyr yn nengradd 1 a 2, wedi addasu dros y blynyddoedd i gefnogi holl ddysgwyr y Consortiwm.  

Caiff y gronfa ei dosbarthu rhwng darparwyr ar sail gwerth eu cyfraniad eu hunain (0.25% o werth contract), yn ogystal â dyraniad cymesur o unrhyw danwariant o’r flwyddyn flaenorol. Y diben yw rhoi cefnogaeth ariannol i ddysgwyr sydd mewn angen, gan eu galluogi i gwblhau eu rhaglenni a llwyddo. Er 2024, mae’r gronfa hefyd yn mynd i’r afael â materion ehangach lles dysgwyr a staff i alluogi cymuned y Consortiwm i ffynnu. 

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch

Sefydlwyd y gronfa i ddechrau yn 2015, yn gronfa amddifadedd, yn canolbwyntio’n bennaf ar ddysgwyr sy’n disgyn o fewn dengradd 1 a 2, a’r nod yw darparu cymorth ariannol i’w galluogi i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Seiliwyd y penderfyniad hwn ar ddarparwyr newydd sy’n ymuno â’r ddarpariaeth a arweiniodd at gynnydd mewn dysgwyr o ardaloedd o Ddwyrain Cymru a oedd yn cyflawni ar gyfradd is na dysgwyr eraill y Consortiwm.  

Mae’r gronfa wedi aros yn ei lle er 2015 ac mae wedi cael ei gwerthuso a chael ffocws o’r newydd dros y blynyddoedd i sicrhau ei bod yn addas at ei diben mewn amgylchedd economaidd sy’n newid, ac ystyried yr effaith y mae Covid wedi’i chael ar les a chyllid dysgwyr. Y nod allweddol erioed fu darparu cyllid sy’n mynd i’r afael â’r materion ehangach hyn o ran lles dysgwyr a staff, a mynediad at y cyllid, i alluogi cymuned y Consortiwm i ffynnu. Defnyddir y gronfa yn ôl disgresiwn darparwr, a’r unig faen prawf cymhwyster yw bod y dysgwr wedi’i gofrestru ar raglen brentisiaeth.  

Gan ei fod yn ddyfarniad dewisol, disgwylir i ddarparwyr lunio’u barnau eu hunain ar beth yw defnydd priodol o gyllid, ar sail anghenion y dysgwr a’r effaith ar ei ddysgu. Cofnodir defnydd o’r gronfa ar daenlen ddatgan a gyflenwir gan dîm rheoli’r Consortiwm. Mae hyn yn rhoi manylion am fwrdd stori byr yn gysylltiedig â’r dysgwyr sy’n elwa ar y gronfa a natur y cymorth, er mwyn gallu cwblhau dadansoddiad o effaith ac effeithiolrwydd.  

Mae darparwyr yn rhannu argaeledd y gronfa gyda dysgwyr fel rhan o’u cyfnod ymsefydlu. Mae’r pwyslais cryf ar les dysgwyr a chysylltiadau cadarnhaol ac ymddiriedus a sefydlwyd gan staff yn golygu bod dysgwyr yn hyderus i godi pryderon a manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt.  

Yn 2024, mewn gwerthusiad allanol o effaith ein darpariaeth cymorth lles ar gyfer prentisiaid a staff ar draws y Consortiwm, nodwyd cais gan reolwyr ar draws y bartneriaeth i ehangu mynediad at y gronfa. O ganlyniad, gall darparwyr ddefnyddio’r gronfa hon i gynorthwyo â chael mynediad at gymorth cwnsela ar gyfer staff a dysgwyr, yn ôl yr angen.  

Mae enghreifftiau o sut defnyddiwyd y gronfa wedi eu rhestru isod; 

  • Talebau cinio  
  • Talebau bwyd 
  • Cymorth argyfwng / caledi 
  • Llety brys 
  • Gofal plant brys 
  • Cludiant brys  
  • Llyfrau 
  • Gliniaduron 
  • Cymorth â bwrsarïau cystadleuaeth fedrau 
  • Cwnsela 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Un o nodweddion cryf y bartneriaeth yw ei hethos ar y cyd a’i hymrwymiad clir i greu diwylliant cadarnhaol sy’n cefnogi lles dysgwyr a staff gan alluogi ein cymuned i ffynnu. Mae sefydlu’r gronfa lles ariannol wedi galluogi darparwyr i gefnogi’r gymuned honno pan fydd yn wynebu heriau o ran caledi. Mae hyblygrwydd y gronfa yn sicrhau bod cymorth yn gallu bod yn adweithiol a chanolbwyntio ar yr amgylchiadau unigol yn y cyfnod angen. Mae effaith y gronfa wedi bod yn bellgyrhaeddol i’r rhai sydd wedi gofyn am y cymorth hwn, gan alluogi darparu offer TG a gwerslyfrau i gynorthwyo â llety brys, talebau bwyd, teithio a gofal plant.  

Yn sgil y pwysau ariannol sy’n cael eu creu o amgylchedd economaidd sy’n newid a galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl a lles, mae defnydd o’r gronfa wedi cynyddu. Yn 2024/25, mae 636 o brentisiaid wedi cael cefnogaeth. Mae’r gronfa hon yn ddefnyddiol i leddfu’r pwysau ariannol hynny ar ein cymuned a’i chefnogi tuag at ei dyheadau a’i huchelgeisiau personol.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae tîm rheoli’r Consortiwm yn darparu gwerthusiad blynyddol o ddefnydd o’r gronfa, a’i heffaith, i Fwrdd Gweithredol. Yn ychwanegol, mae cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Perfformiad a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Lles a Chymorth yn rhannu defnydd o’r gronfa yn rheolaidd ar draws y bartneriaeth i rannu arfer. Mae tîm rheoli’r Consortiwm hefyd yn darparu cymorth trwy gyfarfodydd adolygu contractau, a rhennir astudiaethau achos darparwyr ar draws y bartneriaeth, hefyd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn