Gyrru llwyddiant dysgwyr trwy bartneriaeth a chydweithio.   - Estyn

Gyrru llwyddiant dysgwyr trwy bartneriaeth a chydweithio.  

Arfer effeithiol

B-WBL at Pembrokeshire College

Pedwar oedolyn wedi ymgasglu o amgylch gliniadur, yn trafod gwaith gyda’i gilydd mewn lleoliad llachar dan do.

Gwybodaeth am y darparwr

Mae Consortiwm B-wbl yn ddarparwr hirsefydledig prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon o ddeg darparwr, sydd ag ethos ar y cyd o welliant parhaus, yn gweithio mewn diwylliant o gydweithio, tryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda gweledigaeth i gyflawni rhagoriaeth. Mae’r bartneriaeth yn cyflwyno prentisiaethau ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch i ryw 4500 o ddysgwyr ar draws ystod o feysydd dysgu. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Sefydlwyd Consortiwm B-wbl, a oedd yn cael ei adnabod o’r blaen fel Academi Sgiliau Cymru (De orllewin), ym mis Awst 2010. Coleg Sir Benfro yw’r darparwr arweiniol, a rheolir y contract gan Dîm Rheoli Consortiwm annibynnol o ddeuddeg, wedi’i arwain gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth yn y coleg.  

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys darparwyr ar hyd a lled de ddwyrain a gorllewin Cymru yn cydweithio i sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf. Mae’r Consortiwm yn aruthrol o falch o’i gynnydd ac yn ddyheadol am ei ddyfodol, ond mae’r ddealltwriaeth ar y cyd o fanteision a gwerth cydweithio i greu diwylliant sy’n anelu am ragoriaeth yn hanfodol i lwyddiant. 

Mae gwaith partneriaeth hynod effeithiol wedi galluogi’r Consortiwm i sefydlu ymdeimlad cryf o ddiben a gweledigaeth ar gyfer cyflawni rhagoriaeth. Mae partneriaid yn cyfrannu’n llawn at sefydlu’r genhadaeth, y weledigaeth a’r strategaeth gan arwain at ethos ar y cyd o welliant parhaus sy’n cynnal ffocws craff ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.  

Mae partneriaid yn gweithio o fewn diwylliant o ddidwylledd, tryloywder, ymddiriedaeth, gonestrwydd ac ansawdd, sy’n eu galluogi i rannu arfer a gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau sy’n codi. Mae strwythur cyfarfodydd sefydledig yn darparu craffu ac atebolrwydd, gyda dull cydweithredol i rannu llwyddiannau a nodi a chefnogi partneriaid i oresgyn heriau.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r gwaith partneriaeth cryf a hynod effeithiol ar draws y Consortiwm wedi arwain at ethos ar y cyd a dull rhagweithiol o welliant parhaus. Yr hyn sy’n allweddol i lwyddiant y bartneriaeth yw’r modd y mae pawb wedi gweithio i greu diwylliant dysgu ar draws y bartneriaeth sy’n cydnabod gwerth a chyfraniad pob partner mewn rhannu eu dulliau i gefnogi’r daith wella. Mae’r dull hwn yn cydnabod gweledigaeth ar y cyd i wella, tra’n dathlu unigoliaeth a chryfderau’r sefydliadau o fewn y bartneriaeth.  

Caiff partneriaid eu cynnwys yn llawn mewn cytuno ar dargedau gwella dyheadol blynyddol a blaenoriaethau allweddol i wella profiadau a deilliannau dysgwyr. Mae’r ymglymiad hwn yn sicrhau diwylliant o dryloywder, didwylledd ac ymddiriedaeth sy’n galluogi’r Consortiwm i gydweithio i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau gwelliant. Gall pob un o’r partneriaid ddefnyddio ystod eang o ddata meincnodi i gefnogi’r diwylliant hwn; gan rannu arfer a dulliau, lle mae angen. Un o nodweddion allweddol sicrhau bod hyn yn effeithiol yw’r pwysigrwydd a roddir i ddysgu oddi wrth ei gilydd a sut caiff pob un o’r partneriaid eu cynnwys mewn datblygu systemau a phrosesau i gefnogi’r daith wella.

Nodweddion allweddol ein dull gweithredu 

  • Strwythur cyfarfodydd sy’n sicrhau bod pob un o’r partneriaid yn cael eu cynnwys yn llawn mewn cefnogi a gyrru’r daith wella. Mae cyfarfodydd yn gofyn dro ar ôl tro i bartneriaid gyflwyno ar agweddau allweddol a rhannu eu dulliau i gefnogi gwelliant. Yn 2025, mae ffocws ar wella cyflawni’n  amserol wedi galluogi pawb i fyfyrio ar ddulliau a dysgu oddi wrth y rhai sydd â deilliannau amserol cryf i gryfhau perfformiad. Bob blwyddyn, mae’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno ar y blaenoriaethau allweddol ar gyfer pob grŵp ac yn cael adroddiadau ar gynnydd. Mae papurau a gyflwynir yn cynnwys holl ddata perfformiad partneriaid ar bob agwedd ar gydymffurfio a sicrhau ansawdd lefel o graffu ac atebolrwydd. Mae’r dull hwn wedi bod yn allweddol wrth alluogi grwpiau i rannu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd a goresgyn heriau o fewn amgylchedd o gydweithio. 
  • Mae pob partner yn cwblhau hunanwerthusiad gan ddefnyddio ystod eang o ddata ansawdd a deilliannau i lywio’u barnau. Wedi iddynt eu cwblhau, mae’r Pwyllgor Rheoli Ansawdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob partner, yn safoni’r dogfennau hyn. Mae hyn wedi cynorthwyo partneriaid i ddatblygu adroddiadau cadarn a chynhwysfawr gyda thargedau clir ar gyfer gwella. Ar ôl cyflwyno dogfennau terfynol, creffir ar y rhain hefyd gan y Bwrdd Gweithredol. 
  • Mae prosesau sicrhau ansawdd cynhwysfawr a chadarn a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phartneriaid yn sicrhau bod prosesau’n darparu ffocws craff a chadarn ar brofiadau dysgwyr a chyflogwyr, dysgu ac addysgu a gwella deilliannau i bawb. Caiff dulliau sicrhau ansawdd a ddefnyddir eu gwerthuso bob blwyddyn gan y Pwyllgor Rheoli Ansawdd i sicrhau bod y deallusrwydd a gofnodir yn cefnogi gwelliant. Mae proses adolygu ansawdd flynyddol, sy’n cael ei meithrin fel dull ffrind beirniadol yn cynnwys adolygwyr ar draws y bartneriaeth yn cwblhau ystod o weithgareddau. Mae gweithgareddau’n cynnwys arsylwadau cymheiriaid, grwpiau ffocws dysgwyr a chyflogwyr, a chyfarfodydd gydag ymarferwyr. Cytunir yn flynyddol ar ffocysau ar gyfer yr adolygiad, a datblygir yr adroddiad a’r cynllun gweithredu ar y cyd. Caiff arfer gref ac effeithiol a meysydd i’w datblygu eu lledaenu trwy ein cynadleddau, ein cyfarfodydd a’n grwpiau gorchwyl a gorffen.  
  • Er 2016, mae cynadleddau ymarferwyr blynyddol wedi canolbwyntio ar ledaenu arfer ac uchelgais ar y cyd ar gyfer rhagoriaeth ar draws ein rhwydwaith. Datblygir yr agenda mewn partneriaeth â’r Pwyllgor Rheoli Ansawdd sy’n adlewyrchu meysydd ffocws o’r broses adolygu ansawdd flynyddol, gwybodaeth am sicrhau ansawdd neu agweddau y ceir manylion amdanynt yn ein cynllun datblygu ansawdd. Cyflwynir y gweithdai gan staff ar draws y bartneriaeth sy’n darparu cyfle rhagorol iddynt ddysgu oddi wrth ei gilydd. Caiff y digwyddiadau hyn eu gwerthuso bob blwyddyn, a chaiff effaith ei mesur trwy brosesau sicrhau ansawdd cynhwysfawr. Mae gweithdai wedi cynnwys datblygu medrau meddwl beirniadol, dulliau i ymestyn a herio, holi effeithiol, ymgorffori themâu trawsbynciol a chefnogi dysgwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae digwyddiadau wedi datblygu adnoddau ar y cyd, hefyd.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cafwyd manteision ac effeithiau amlweddog o’r dull hwn o weithio mewn partneriaeth. Mae hyn wedi galluogi cyflawni deilliannau ar gyfer prentisiaid a oedd i gyd uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol terfynol ar gyfer 23/24, yn gyffredinol, ac ar draws pob lefel. Y tu hwnt i ddeilliannau, mae cydweithredu’n sicrhau bod diwylliant cadarnhaol yn cael ei greu sy’n ceisio gwella profiadau dysgwyr yn barhaus.  

Un o’r nodweddion allweddol fu sut mae partneriaid yn cydweithio i gytuno ar y safonau uchel a ddisgwylir gan ddysgwyr a staff, a’u hyrwyddo, a sut caiff lledaenu a rhannu arfer effeithiol ei sicrhau sy’n ystyrlon ac yn cyd-fynd ag agweddau sydd angen eu gwella. Mae diwylliant dysgu proffesiynol yn golygu bod partneriaid a’u staff yn elwa ar weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r daith wella. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

  • Strwythur cyfarfodydd a chyfarfodydd adolygu contractau  
  • Cynadleddau Ymarferwyr 
  • Astudiaethau achos  
  • Eitemau agenda ar rannu arfer   
  • Grwpiau gorchwyl a gorffen  
  • Proses adolygu ansawdd  

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn