Adborth a chwynion

Share this page

Rydym yn ymroi i gynnig gwasanaeth o safon uchel. Ein nod yw cael pethau’n iawn y tro cyntaf.

Mae eich awgrymiadau, eich canmoliaeth a’ch cwynion yn ein helpu i wella.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/04/2022

Meysydd sydd wedi eu cynnwys yn ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion

Gallwch gwyno am ein gwaith, a gallai hynny gynnwys:

  • safon ac ansawdd yr hyn a wnawn
  • cynnwys ein gwaith
  • ymddygiad aelod o’n staff
  • anghywirdebau penodol

Meysydd nad ydynt wedi eu cynnwys yn ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion

Fodd bynnag, mae rhai cwynion na allwn ddelio â nhw:

  • Barnau arolygu sy’n cael eu llunio ar ôl arolygiad neu adolygiad. Mae hyn oherwydd mai’r darparwr sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod, cyn ac yn ystod arolygiad, yn rhannu’r holl dystiolaeth y mae ei hangen i’r tîm arolygu lunio’i farnau yn gywir ac yn deg.
  • Sefydliad yr ydym yn ei arolygu ac yn gweithio gydag ef, fel ysgol. Mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno’r ysgol ei hun yn y lle cyntaf
  • Polisïau a osodir gan Lywodraeth Cymru. Ewch i www.llyw.cymru

Rydym yn dilyn dyddiadau cwblhau statudol ar gyfer ein hadroddiadau arolygu, felly ni fyddwn fel arfer yn aros cyn cyhoeddi adroddiad, tra byddwn yn ymchwilio i gŵyn.

Adnoddau eraill

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor ar sut i gwyno am wasanaeth cyhoeddus.

https://www.ombudsman.wales/

Cysylltu â ni

Robert Gairey
Rheolwr Adborth a Chwynion
02920 446309
[email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a rhown yr un flaenoriaeth i’r ddwy iaith.

Rhan o Adborth arolygu