Beth ddylwn ei wneud os oes gennyf gŵyn am ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall?

Os oes gennych gŵyn am ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall, dylech godi eich pryderon â’r darparwr, yn y lle cyntaf. Nid ydym yn rhagweld nac yn mynd i’r afael â chwynion am weithgareddau ysgolion neu ddarparwyr unigol. I ddechrau, dylech fynegi eich pryderon yn ffurfiol trwy weithdrefn gwyno’r ysgol. Os byddwch yn anfodlon o hyd ar yr adeg honno, dylech godi’ch cŵyn â’r Cyfarwyddwr Addysg neu’r swyddog cyfwerth yn yr awdurdod lleol.