A oes yn rhaid i ysgolion gofnodi cwynion rhieni?

Mae Adran 29 Deddf Addysg 2002 yn gofyn i gyrff llywodraethol yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau o’r fath.

Nid oes dyletswydd statudol ar ysgolion i gadw cofnod o gŵynion rhieni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori ysgolion i wneud hynny, yn eu harweiniad i lywodraethwyr Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr Rhif 011/2012.

Rhaid i ysgolion unigol gael polisi cwyno cyhoeddedig, sy’n amlinellu ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion sut i gwyno, a sut bydd yr ysgol yn ymdrin â’r cwynion hyn. Gallai polisïau gwrth-fwlio ysgolion roi manylion ynglŷn â sut bydd cwynion am fwlio yn cael eu rheoli hefyd.

Bydd gan awdurdodau lleol bolisïau cyhoeddedig hefyd, sy’n rheoli sut mae’n rhaid i’w wasanaethau gofnodi ac ymateb i gŵynion. Gallai’r rhain ofyn i ysgolion gynnal cofnod o gŵynion gan rieni hefyd. Fodd bynnag, bydd pob awdurdod lleol wedi penderfynu ar ei pholisi ei hun yn y maes hwn.

Dim ond pan fydd achwynydd yn anfodlon â’r ffordd y mae’r ysgol wedi delio â’r gŵyn y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â chwyn gan rieni, ac yn ei chyfeirio at yr awdurdod.

Rydym ni’n cael cwynion gan rieni yn aml. Fodd bynnag, nid oes gennym y pwerau i ymchwilio i’r rhain. Yn hytrach, rydym ni’n cynghori’r achwynydd i godi’r mater yn ysgrifenedig gyda’r ysgol yn gyntaf, wedyn os nad yw’n fodlon, gyda’r awdurdod lleol. Os bydd yr achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon o hyd, yna gall godi’r mater gyda’r ombwdsmon awdurdodau lleol.