Ymgynghoriad – trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion o fis Medi 2024
Related content
Share this page
O fis Medi 2024, byddwn yn cyflwyno trefniadau arolygu newydd ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau). Mae nawr yn adeg bwysig i ni fyfyrio ac adolygu fel y gallwn sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf lle mae ei angen fwyaf.
Rydym yn gofyn am farn unigolion a sefydliadau sy’n gweithio mewn darparwyr addysg a hyfforddiant, neu’n rhyngweithio â nhw, i roi dealltwriaeth gyfoethog i ni o’r effaith a gaiff arolygu ar draws pob un o’r sectorau rydym yn eu harolygu.
Bydd cael dweud eich dweud yn dylanwadu ar sut a beth rydym yn ei arolygu yng Nghymru o fis Medi 2024 ymlaen.
Cymerwch ran cyn dydd Llun, 26 Mehefin 2023.
Ar gyfer pwy mae’r ymgynghoriad hwn?
Pawb fydd â diddordeb yn y trefniadau arolygu newydd ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys:
Athrawon, llywodraethwyr ac staff o ysgolion (cynradd, uwchradd, pob oed, annibynnol, arbennig)
Staff o unedau cyfeirio disgyblion
Gweithwyr addysg proffesiynol ac arweinwyr ar draws y sector, gan gynnwys staff o wasanaethau gwella ysgolion
Rhieni a gofalwyr
Rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol