Arolygydd Cymheiriaid – Ysgolion Cynradd
Dewch yn Arolygydd Cymheiriaid yn y Sector Ysgolion Cynradd
Hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at welliant yn eich sector?
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd, neu’n cefnogi ysgolion cynradd fel swyddogion awdurdod neu consortiwm, ar hyn o bryd.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant Arolygwyr Cymheiriaid yn llwyddiannus ac ar ôl cael eich lleoli, byddwch:
- yn aelod llawn o’r tîm arolygu;
- yn defnyddio eich gwybodaeth, eich medrau a’ch profiad i gyfrannu at werthusiad cyffredinol y tîm o waith yr ysgol;
- yn helpu’r tîm i ffurfio ei werthusiadau o addysgu, dysgu, lles ac arweinyddiaeth;
- yn cynnal trafodaethau gyda disgyblion a staff, yn arsylwi addysgu a dysgu ac yn craffu ar waith disgyblion;
- yn casglu tystiolaeth ac yn creu pwyntiau bwled gwerthusol sy’n cynorthwyo i lunio’r adroddiad terfynol.
Mae bod yn arolygydd cymheiriaid yn gyfle dysgu proffesiynol rhagorol sy’n caniatáu i chi ddysgu gan ddarparwyr eraill a chyfrannu at godi safonau mewn addysgu a dysgu ledled Cymru.
Rydym yn cynnig hyfforddiant, ac os caiff ei gwblhau yn llwyddiannus, byddwn yn ychwanegu eich enw at ein rhestr Arolygwyr Cymheiriaid.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion ar sut i ymgeisio.
Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun 7 Rhagfyr 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr.