Ein rôl
Rydym yn arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant ac yn cynghori Llywodraeth Cymru am ansawdd a safonau addysg yng Nghymru.
Rydym yn gwneud hyn trwy arolygiadau a thrwy ysgrifennu adroddiadau ar themâu addysgol, sy’n cwmpasu ystod o sectorau a thestunau, fel medrau darllen a’r cwricwlwm. Bwriad ein hadroddiadau yw annog meddwl ehangach a rhannu arfer effeithiol.
Eich rôl mewn arolygiad
Mae safbwyntiau rhieni a gofalwyr ar addysg a’u profiadau ohoni yn bwysig iawn i ni. Cewch gyfle i gyfrannu at y broses pan fydd ysgol eich plentyn yn cael ei harolygu.
Gofynnir i chi lenwi holiadur ar-lein ac fe’ch gwahoddir i fynychu cyfarfod gydag arolygwyr yn rhan o’r broses arolygu. Byddwn hefyd yn siarad â grwpiau o blant yn yr ysgol i ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau ar yr ysgol a’u profiadau ohoni.
Cyhoeddir ein hadroddiadau arolygu ar ein gwefan 45 niwrnod ar ôl i’r arolygiad ddechrau. Mae hyn yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau’r tîm arolygu ac yn amlygu cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella.
Nid ydym yn rhoi graddau crynodol cyffredinol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’ mwyach, ond mae ein hadroddiadau’n cynnwys crynodeb o ganfyddiadau allweddol. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad mwy cryno yn benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr ochr yn ochr â’r adroddiad arolygu llawn.
Ymunwch â’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr!
Rydym bellach yn datblygu Cymuned Rhieni a Gofalwyr newydd ac yn croesawu rhieni a gofalwyr o ystod amrywiol ac eang o gefndiroedd a phrofiadau i ymuno.
Rydym eisiau:
- Deall profiadau addysg i deuluoedd fel eich teulu chi
- Cael gwybod beth yw eich barn ar feysydd addysg pwysig fel lles disgyblion, y cwricwlwm newydd a chymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
- Clywed eich barn ar sut rydym yn arolygu, a rhannu ein canfyddiadau â rhieni a gofalwyr
- Galluogi rhieni a gofalwyr o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddylanwadu ar ein gwaith.
Bydd aelodau o’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ac/neu ymuno â grwpiau ffocws ar-lein.
Mae eich barn yn bwysig a bydd yn ein helpu ni a darparwyr addysg, fel ysgolion a cholegau, i gynorthwyo disgyblion a’u teuluoedd yn well.
I gofrestru’ch diddordeb, ymunwch â’r Gymuned Rhieni a Gofalwyr, llenwch y ffurflen fer hon: