Erthyglau newyddion |

Y Prif Arolygydd yn galw ar ysgolion i edrych o’r newydd ar addysgu a dysgu

Share this page

Mae arwyddion o gynnydd, yn enwedig gyda sylfeini addysg, fel ymddygiad a phresenoldeb, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, a chefnogi dysgwyr bregus, ond mae gormod o amrywioldeb o hyd yn ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn ysgolion Cymru, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ysgolion rhagorol, ond mae ysgolion eraill yn methu dal i fyny â disgwyliadau cynyddol. 

Dywed y Prif Arolygydd Meilyr Rowlands,

Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr ysgolion gorau a’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd. I gau’r bwlch gyda’r goreuon, mae angen i ysgolion barhau i ganolbwyntio ar y pethau sylfaenol, a hefyd edrych o’r newydd ar brofiadau addysgu a dysgu – beth sy’n cael ei addysgu, a sut mae’n cael ei addysgu a’i asesu. Mae angen i athrawon ac arweinwyr ddefnyddio’u dychymyg yn yr ystafell ddosbarth a chroesawu’r her i rannu a dysgu gan y goreuon. Mae llawer o’r ysgolion gorau mewn ardaloedd cymharol dlawd, felly nid yw amddifadedd economaidd yn rheswm dros safonau is.

 

“Dylai pob arweinydd ac athro ofyn iddyn nhw eu hunain a oes sylfeini cadarn gan eu hysgol a ph’un a ydynt yn gwbl barod ar gyfer newidiadau a heriau’r dyfodol yn addysg Cymru.  Yn fy Adroddiad Blynyddol, fe welant ddeuddeg cwestiwn i’w hystyried ynglŷn ag addysgu a dysgu, yn canolbwyntio ar feysydd yn amrywio o anghenion datblygu staff i asesu disgyblion.”

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at ysgolion sy’n arwain y ffordd, yn enwedig y rheini sy’n paratoi’n llwyddiannus ar gyfer newidiadau a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd. Mae disgyblion 11-14 oed Ysgol yr Esgob Gore wedi ffynnu, diolch i’w gwaith arloesol yn ailddylunio model y cwricwlwm sy’n annog cymhwyso medrau o bynciau penodol i brosiectau ar draws themâu amrywiol.

Ysgol arall sydd wedi gweld buddion mynd i’r afael yn fentrus ag addysgu a dysgu yw Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed, sydd wedi defnyddio drama i gynnig cysylltiad emosiynol a deallusol i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Law yn llaw â defnyddio llechi digidol i recordio gweithgareddau drama, mae’r dull hwn wedi gwella cyrhaeddiad, yn enwedig cyrhaeddiad bechgyn.

Dywed Meilyr Rowlands eto,

Dylai darparu profiadau addysgu a dysgu a fydd yn sicrhau bod disgyblion yn ymddiddori’n llawn yn eu dysgu ac yn barod i fyw bywydau cyflawn fod wrth galon pob ysgol.”

Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd hefyd yn cynnwys trosolwg o’r holl arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant o flwyddyn academaidd 2014-15.  I fynd law yn llaw â’r adroddiad ar wefan Estyn, cynigir offeryn data newydd i’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg sy’n gallu hidlo ac allforio’r holl ganfyddiadau arolygu sydd wedi’u cyhoeddi er 2010-11.

Nodiadau i Olygyddion:

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yma: http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiad-blynyddol

Mae’r wefan data yma: http://data.estyn.llyw.cymru

Astudiaethau achos arfer orau:

Abertawe
Bishop Gore Comprehensive
Ysgol Gyfun Gwyr

Bro Morgannwg
Romilly Community Primary School
Stanwell Comprehensive

Caerdydd
Rhiwbeina Primary
Howell’s School

Caerffili
St Gwladys Bargoed School

Ceredigion
Ysgol Uwchradd Aberteifi

Conwy
Ysgol Glan Gele

Powys
Gladestry C.I.W. School

Rhondda Cynon Taf
Ysgol Hen Felin

Sir Ddinbych
Pengwern College

Sir Gâr
Llanmiloe Primary
B-wbl

Torfaen
Crownbridge Special School

Wrecsam
Borras Park Infants School

Ynys Môn
Ysgol Y Graig

Canolfan Addysg ac Hyfforddiant Athrawon De Ddwyrain Cymru