Erthyglau newyddion |

Rhaid i golegau addysg bellach roi mwy o sylw i fedrau byw’n annibynnol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu

Share this page

Nid yw’r rhan fwyaf o golegau addysgu bellach (AB) yn canolbwyntio’n ddigon cadarn ar y medrau byw’n annibynnol y bydd ar bobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau eu hangen ar gyfer eu dyfodol. Darganfu adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn mai ychydig golegau yn unig yng Nghymru sy’n gosod nodau realistig a hirdymor ar gyfer y bobl ifanc hyn, yn cynnwys datblygu medrau cyfathrebu a chyflogadwyedd ehangach.

Mae’r adroddiad, Cynnydd dysgwyr ym meysydd dysgu medrau byw’n annibynnol mewn colegau addysg bellach, yn ystyried pa mor dda mae colegau AB yn darparu rhaglenni dysgu i bobl ifanc ag amrywiaeth eang o anawsterau dysgu canolig i ddifrifol.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Mae’n hanfodol bod colegau AB yn paratoi pobl ifanc ag anawsterau dysgu ar gyfer bywyd ar ôl iddynt adael y coleg ac yn helpu i roi iddynt y medrau y bydd arnynt eu hangen i fyw bywyd annibynnol.
 

“Dylai colegau lunio rhaglenni dysgu digon heriol sydd â chydbwysedd priodol rhwng cymwysterau a gweithgareddau eraill fel bod dysgu yn bwrpasol ac yn cyfateb yn dda i alluoedd y bobl ifanc.
 

“Mae adroddiad heddiw yn amlygu rhai enghreifftiau o lwyddiant, lle y mae colegau wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd dysgwyr unigol trwy osod targedau ystyrlon a bod yn hyblyg wrth gynllunio’r cwricwlwm.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaeth achos o Grŵp Llandrillo Menai, lle y gwnaeth staff ailarfarnu eu ffordd o osod targedau ar gyfer dysgwyr unigol.  Cyflwynwyd asesiad cychwynnol chwe wythnos ar ddechrau cyrsiau er mwyn cael gwybodaeth gywir a pherthnasol am alluoedd dysgwyr.  Sicrhawyd bod nodau hirdymor dysgwyr yn ganolog i gynlluniau dysgu.  Darganfu arolygwyr fod staff wedi gallu darparu cymorth cydlynus ar gyfer cynnydd unigolion y tu mewn a’r tu allan i’r coleg, ers gwneud y newidiadau.  Mae nifer o ddysgwyr wedi gwneud cyflawniadau nodedig.  Er enghraifft, mae un person ifanc a oedd yn ei chael hi’n anodd cymdeithasu â chyfoedion bellach yn mynychu clwb ieuenctid ac mae un arall a oedd un cael problemau wrth archebu a bwyta cinio yn y coleg bellach yn gallu gwneud hyn yn annibynnol.

Mae gan yr adroddiad bump argymhelliad allweddol i golegau AB er mwyn helpu i wella’u darpariaeth i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau.  Mae’r rhain yn cynnwys amlygu galluoedd a medrau ehangach dysgwyr yn ystod asesiadau cychwynnol, sicrhau bod cynlluniau dysgu unigol yn cyfrif yn ddigonol am y rhain a llunio rhaglenni dysgu sy’n fwy perthnasol a heriol.  Mae argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru hefyd.

        Nodiadau i’r Golygyddion:

        Ynghylch yr adroddiad

  • Yn 2015-16, cwblhaodd tua 1,400 o ddysgwyr raglenni dysgu i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau mewn 12 coleg yng Nghymru
  • Fe wnaeth tystiolaeth yr adroddiad gynnwys ymweliadau ag 11 o 12 maes dysgu medrau byw’n annibynnol mewn colegau AB (casglwyd gwybodaeth am y ddarpariaeth yng Ngholeg Merthyr Tudful yn ystod arolygiad yn 2016):
    • Coleg Penybont (gan gynnwys Tŷ Weston)
    • Coleg Caerdydd a’r Fro
    • Coleg Cambria
    • Coleg Ceredigion
    • Coleg Gwent
    • Coleg Sir Gâr
    • Coleg y Cymoedd
    • Coleg Gŵyr
    • Grŵp Llandrillo Menai
    • Grŵp Colegau NPTC
    • Coleg Sir Benfro
  • Mae colegau AB yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau. Mewn tua hanner y colegau hyn, cyfeirir at y rhain gyda’i gilydd fel rhaglenni medrau byw’n annibynnol, ond yn y colegau eraill, cânt eu grwpio mewn rhaglenni fel medrau bywyd neu astudiaethau sylfaenol. At ddibenion yr adroddiad, fe’u hystyrir gyda’i gilydd oll fel rhaglenni dysgu annibynnol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau neu anableddau.