Erthyglau newyddion |

Mae llywodraethwyr ysgol yn chwarae rôl gefnogol ond mae angen mwy o gymorth arnynt i allu dwyn arweinwyr i gyfrif, yn ôl canfyddiadau adroddiad

Share this page

Mae gan lywodraethwyr rôl hanfodol mewn system addysg effeithiol ac mae eu hymdrechion gwirfoddol yn ychwanegu gwerth. Mae cael y cydbwysedd cywir rhwng her a chymorth i uwch arweinwyr yn agwedd bwysig ar rôl corff llywodraethol. Fodd bynnag, mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn awgrymu bod angen mwy o gymorth ar y rhan fwyaf o lywodraethwyr i’w helpu i weithredu fel “ffrindiau beirniadol” effeithiol.

Canfu Estyn fod llywodraethwyr yn aml yn dibynnu’n ormodol ar y wybodaeth a ddarperir gan arweinwyr ysgolion, yn enwedig y cynnydd y mae’r ysgol yn ei wneud tuag at fodloni eu blaenoriaethau. 
 
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn gweithio’n gynhyrchiol gydag uwch arweinwyr mewn ysgolion, ond nad yw mwyafrif ohonynt yn eu herio’n ddigonol. Er bod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn ymroddgar a brwdfrydig, nid oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon eang o’u rôl mewn sicrhau disgwyliadau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.
 
Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd, 

Gall llywodraethwyr fod â rôl bwysig mewn cynorthwyo uwch arweinwyr ysgol, a’u dwyn i gyfrif. Mae ein hadroddiad thematig diweddaraf yn dangos, er bod llywodraethwyr ysgol ledled Cymru yn ymgymryd ag agweddau ar eu rolau yn dda, mae eu gallu i herio uwch arweinwyr ar feysydd allweddol, fel perfformiad addysgol, yn ddiffygiol.

Mae rôl llywodraethwyr mewn dwyn arweinwyr i gyfrif ynglŷn â monitro gwelliant, yn ei hanfod. Dylai hyn gynnwys sefydlu disgwyliadau clir, sicrhau llinellau cyfrifoldeb diffiniedig, rhoi systemau ar waith ar gyfer monitro’n briodol, a sicrhau bod gwerthuso’n arwain at gamau sy’n sicrhau gwelliant.

Mae ein canfyddiadau’n dangos enghreifftiau cryf o lywodraethwyr yn herio uwch arweinwyr yn effeithiol ac yn helpu gyrru gwelliant ysgol gyfan – ond mae’r rhain yn y lleiafrif. Bydd sicrhau bod llywodraethwyr yng Nghymru yn cael cyfleoedd rheolaidd a gwerthfawr i arsylwi’n uniongyrchol y cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud tuag at fodloni ei blaenoriaethau yn allweddol iddyn nhw’n gweithredu fel “ffrindiau beirniadol”.
 
Canfu arolygwyr, yn yr ysgolion lle mae her ar ei gryfaf, fod llywodraethwyr yn defnyddio’r wybodaeth a gyflwynwyd iddynt gan arweinwyr ochr yn ochr â’u profiadau eu hunain a thystiolaeth uniongyrchol. Roedd y llywodraethwyr hyn yn gallu ffurfio cwestiynau’n well a oedd yn herio arweinwyr ar wahanol agweddau ar waith yr ysgol. Mae’r gwaith hwn yn gryf iawn yn Ysgol Gynradd Doc Penfro ac Ysgol Plas Brondyffryn yn Sir Ddinbych.
 
Mewn llawer o ysgolion, dywed llywodraethwyr eu bod yn herio arweinwyr ysgolion yn effeithiol. Fodd bynnag, mewn gormod o ysgolion, nid yw penaethiaid yn cytuno bod yr her gan lywodraethwyr yn gadarn nac yn ddefnyddiol. Mae’n ymddangos bod her yn fwyaf effeithiol pan fydd yna lywodraethwyr â chefndir addysgol neu lywodraethwyr profiadol sydd â dealltwriaeth dda iawn o ysgol lwyddiannus.
 
Mae Owen Evans yn parhau, 

Rwy’n gwerthfawrogi mewnbwn penaethiaid, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill a gymerodd ran yn ein sampl o ysgolion ledled Cymru. Mae’r adroddiad heddiw yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion pwysig, ac rwy’n annog llunwyr polisi a’r sector addysg i roi sylw iddyn nhw. Gall corff llywodraethol ysgol chwarae rôl bwysig mewn cynnal a gwella safonau – ond mae gwaith i’w wneud.