Mae gwasanaethau lles addysg yn darparu cymorth gwerthfawr, ond mae angen mwy o gysondeb i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus
Mae adroddiad newydd gan Estyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn darganfod bod Gwasanaethau Lles Addysg yn darparu cymorth gwerthfawr i ysgolion, ond mae gwahaniaethau o ran arfer, pwysau ar staffio a chyllid tymor byr, yn golygu bod eu heffaith ar bresenoldeb parhaus yn rhy amrywiol o hyd.
Mae’r adroddiad newydd, Gwasanaethau Lles Addysg: Effeithiolrwydd y cymorth sy’n cael ei ddarparu i ysgolion a rhieni a gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus, yn archwilio pa mor effeithiol y mae Gwasanaethau Lles Addysg (GLlAau) yn cynorthwyo ysgolion, UCDau a rhieni a gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus. Mae’r adroddiad yn manteisio ar drafodaethau â gwasanaethau lles addysg mewn naw awdurdod lleol, yn ogystal â 45 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed.
Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn cefnogi dysgu a lles disgyblion, a’u cyfleoedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae absenoldeb parhaus yn parhau i fod yn destun pryder cenedlaethol sylweddol. Yn 2024–2025, collodd 27.0% o ddisgyblion 10% neu fwy o sesiynau ysgol. Roedd cyfraddau yn hynod uchel ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol.
Canfu’r adroddiad fod y rhan fwyaf o Wasanaethau Lles Addysg yn darparu cymorth gwerthfawr ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal disgyblion rhag mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae eu gwaith yn hynod effeithiol pan fydd swyddogion lles addysg yn bresennol yn rheolaidd mewn ysgolion ac yn datblygu perthnasoedd proffesiynol cryf â disgyblion, teuluoedd, staff ysgolion a gwasanaethau eraill.
Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae swyddogion yn nodi pryderon yn gynnar, yn ymweld â theuluoedd gartref ac yn gweithio gyda gwasanaethau bugeiliol, iechyd, gofal cymdeithasol ac ieuenctid i fynd i’r afael ag anawsterau sylfaenol. Gallai’r rhain gynnwys gorbryder, trawma, caledi ariannol, problemau cludiant neu amgylchiadau teuluol cymhleth eraill.
Fodd bynnag, adroddodd bron pob un o’r awdurdodau lleol a gymerodd ran yn yr adolygiad eu bod yn wynebu pwysau sylweddol o ran capasiti. Roedd beichiau achos uchel a chymhlethdod cynyddol anghenion teuluoedd yn aml yn golygu bod rhaid i swyddogion ganolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol, sy’n lleihau eu gallu i ymyrryd yn gynnar ac atal problemau presenoldeb rhag ymsefydlu.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae gan swyddogion lles addysg rôl werthfawr mewn helpu disgyblion a theuluoedd i oresgyn y rhwystrau sy’n atal presenoldeb rheolaidd. Pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno’n effeithiol, mae’r gwasanaethau hyn yn meithrin ymddiriedaeth, yn nodi pryderon yn gynnar ac yn dod ag ysgolion ac asiantaethau eraill at ei gilydd o amgylch anghenion y plentyn.
“Fodd bynnag, nid yw disgyblion a theuluoedd yn elwa ar gymorth sy’n gyson effeithiol ledled Cymru eto. Mae beichiau achos uchel, ansefydlogrwydd staffio a dibyniaeth ar gyllid tymor byr yn cyfyngu ar waith ataliol ac yn ei gwneud yn anodd cynllunio yn y tymor hir. Mae gwella presenoldeb yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac ni all ysgolion fynd i’r afael ag achosion cymhleth absenoldeb parhaus ar eu pen eu hunain.
“Mae angen dull mwy cynaliadwy a chydgysylltiedig er mwyn i wasanaethau allu ymyrryd yn gynharach a bod pob disgybl yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ymgysylltu â’i addysg.”
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru atgyfnerthu canllawiau cenedlaethol ar bresenoldeb, sefydlu cyllid cynaliadwy amlflwyddyn a chryfhau systemau data presenoldeb cenedlaethol. Mae hefyd yn galw ar awdurdodau lleol i wella cysondeb a monitro Gwasanaethau Lles Addysg, cryfhau cymorth ataliol ac ymgysylltu â theuluoedd, gwneud defnydd strategol gwell o ddata presenoldeb, a chymhwyso prosesau statudol yn fwy cyson.