Gwasanaethau Lles Addysg: Effeithiolrwydd y cymorth y mae’r Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) yn ei ddarparu i ysgolion a rhieni / gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus - Estyn

Gwasanaethau Lles Addysg: Effeithiolrwydd y cymorth y mae’r Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) yn ei ddarparu i ysgolion a rhieni / gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus

Adroddiad thematig


Crynodeb Gweithredol

Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio pa mor effeithiol y mae Gwasanaethau Lles Addysg (GLlAau) yn cynorthwyo ysgolion, UCDau, a rhieni a gofalwyr i fynd i’r afael ag absenoldebau parhaus. Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o’n harolygiadau a’n trafodaethau gyda’r GLlAau ac ysgolion (9 awdurdod lleol, 21 ysgol gynradd, 18 ysgol uwchradd a 6 ysgol bob oed) ac yn nodi nodweddion allweddol arfer effeithiol a meysydd i’w gwella.

Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau, safonau a dilyniant dysgwyr, yn ogystal ag ar les emosiynol a chorfforol. I’r gwrthwyneb, gallai absenoldeb estynedig fod â chanlyniadau tymor hir i iechyd meddwl person ifanc a’i gyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r cymorth gwerthfawr y mae’r GLlA yn ei roi i ysgolion a sut mae hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at nodi disgyblion sydd mewn perygl o absenoldebau parhaus a chydlynu cymorth ar gyfer teuluoedd. Mae’n pwysleisio bod perthnasoedd proffesiynol cryf rhwng swyddogion lles addysg, ysgolion ac asiantaethau partner yn sail i arfer effeithiol mewn llawer o ardaloedd. Mae hefyd yn amlygu meysydd lle gallai gwelliannau wella effeithiolrwydd y system.

Trosolwg o ganfyddiadau

  • Er bod y rhan fwyaf o GLlAau wedi darparu cymorth gwerthfawr i ysgolion a theuluoedd, roedd amrywioldeb mewn arfer, capasiti gwasanaeth cyfyngedig a’r defnydd strategol anghyson o dystiolaeth yn cyfyngu ar eu gallu i sicrhau gwelliannau mewn presenoldeb ar draws y system. I gryfhau effeithiolrwydd y GLlAau, mae angen gweithredu ar lefel genedlaethol a lefel awdurdod lleol gan nad oes, ar hyn o bryd, ymagwedd gynaliadwy at swyddi presenoldeb a gwasanaethau lles, cryfhau systemau ac arweiniad data cenedlaethol, a gwella ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol.
  • Ar draws yr awdurdodau lleol a adolygwyd, roedd GLlAau yn darparu cymorth gwerthfawr i ysgolion, disgyblion a theuluoedd ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â rhwystrau rhag presenoldeb. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, roedd perthnasoedd effeithiol rhwng GLlAUau, ysgolion a theuluoedd yn cefnogi deialog adeiladol a nodi pryderon yn gynnar. Lle’r oedd swyddogion yn bresennol yn rheolaidd mewn ysgolion ac yn gweithio’n agos gyda thimau bugeiliol, roedd cymorth yn hynod effeithiol, yn aml yn gwella presenoldeb ar gyfer disgyblion unigol ac yn cryfhau ymgysylltu â theuluoedd. Fodd bynnag, roedd effaith gyffredinol y GLlAau ar leihau absenoldeb parhaus yn rhy amrywiol o hyd. Dywedodd bron pob awdurdod lleol fod pwysau sylweddol o ran capasiti, sy’n cyfyngu ar waith ataliol ac ymyrraeth gynnar.
  • Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, roedd cyfathrebu rhwng y GLlA, ysgolion a theuluoedd yn effeithiol, yn enwedig lle roedd swyddogion yn gweithio mewn ysgolion yn rheolaidd, gan alluogi ymgysylltu cadarnhaol â staff ysgolion a theuluoedd. Yn yr awdurdodau lleol hyn, roedd perthnasoedd proffesiynol sefydledig ac ymgyrchoedd ar draws awdurdodau yn helpu hyrwyddo negeseuon cyson am bwysigrwydd presenoldeb ac yn cefnogi ymgysylltu yn seiliedig ar berthynas â theuluoedd. Fodd bynnag, mewn ychydig o awdurdodau lleol, arweiniodd pwysau o ran capasiti a dulliau gwahanol at gyfathrebu anghyson. Yn ychwanegol, mewn mwyafrif o awdurdodau lleol, roedd ymgysylltu â theuluoedd yr oedd eu hagweddau at bresenoldeb wedi ymwreiddio’n ddyfnach ers y pandemig yn parhau i fod yn heriol.
  • Roedd cydweithio â gwasanaethau eraill yn rhan bwysig o gymorth â phresenoldeb. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau, roedd y GLlA yn cynnal perthnasoedd gwaith priodol â gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, seicoleg addysg a gwasanaethau ieuenctid. Roedd hyn yn galluogi dealltwriaeth gyfannol o’r rhwystrau sy’n effeithio ar ddisgyblion ac yn helpu cefnogi ymatebion cydlynus. Mewn lleiafrif o awdurdodau, roedd trefniadau amlasiantaethol sefydledig yn cefnogi ymatebion cydlynus ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth. Roedd y trefniadau hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddiogelu a lles. Fodd bynnag, nid oedd gwaith partneriaeth bob amser yn ddigon strategol ac roedd yn aml yn dibynnu gormod ar berthnasoedd gwaith unigol rhwng GLlAau a gwasanaethau. Roedd pwysau o ran capasiti o fewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau arbenigol, ynghyd ag ymyrraeth gynnar annatblygedig a chymorth ataliol i deuluoedd mewn rhai ardaloedd, yn cyfyngu ar amseroldeb ac effaith gyffredinol ymyrraeth amlasiantaethol ar ddeilliannau presenoldeb.
  • Yn gyffredinol, roedd gan awdurdodau lleol systemau cadarn ar gyfer casglu a monitro data presenoldeb. Bron ym mhob achos, roedd awdurdodau’n casglu gwybodaeth reolaidd am bresenoldeb ac yn ei rhannu ag ysgolion i nodi disgyblion sydd mewn perygl o fod yn absennol yn barhaus. Roedd llawer o awdurdodau hefyd yn dadansoddi patrymau presenoldeb ar gyfer grwpiau bregus. Mewn llawer o achosion, nid oedd arweinwyr yn defnyddio data presenoldeb yn ddigon strategol i werthuso effaith ymyriadau neu nodi tueddiadau tymor hwy. Yn ychwanegol, nid ydynt yn rhannu arfer effeithiol rhwng ysgolion yn ddigon da.
  • Mae trefniadau cyllido wedi cael cryn ddylanwad ar gapasiti a sefydlogrwydd ymdrechion awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag absenoldebau parhaus. Mewn llawer o awdurdodau, galluogodd cyllid grant arweinwyr i gynyddu capasiti staffio a chryfhau gwaith ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd. Yn aml, roedd rolau ychwanegol, fel swyddogion ymgysylltu â theuluoedd neu swyddogion cymorth presenoldeb, yn gwella cyfathrebu â theuluoedd ac yn cefnogi ailintegreiddio ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o fod yn absennol yn barhaus. Mae’r rolau hyn yn ychwanegol i’r gweithgarwch statudol y disgwylir i awdurdodau lleol ei gyflawni fel swyddogaeth graidd o dan y Grant Cynnal Refeniw (RSG) Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, ar draws bron pob awdurdod, mae’r rolau ychwanegol hyn yn ddibynnol ar grantiau tymor byr neu grantiau sy’n cael eu dyrannu’n flynyddol. Roedd hyn yn creu ansicrwydd, yn cyfyngu ar sefydlogrwydd y gweithlu, ac yn cyfyngu ar gynllunio strategol tymor hwy. O ganlyniad, er bod enghreifftiau o arfer effeithiol yn bodoli, roedd diffyg cysondeb, cynaliadwyedd ac alinio strategol yn y dull cyllido cyffredinol, sy’n angenrheidiol ar gyfer sicrhau gwelliannau parhaol mewn presenoldeb.
  • Ar draws yr awdurdodau lleol a adolygwyd, roedd cydymffurfio â dyletswyddau statudol yn ymwneud â phresenoldeb ysgolion yn gadarn, ar y cyfan. Roedd gan y rhan fwyaf o GLlAau brosesau ymateb graddedig clir, llwybrau uwchgyfeirio diffiniedig a threfniadau goruchwylio priodol a oedd yn cefnogi camau gweithredu cymesur pan roedd pryderon ynghylch presenoldeb yn dwysàu. Mewn llawer o ardaloedd, roedd mesurau statudol fel llythyrau rhybudd, hysbysiadau cosb benodedig a gweithrediadau cyfreithiol yn cael eu cymhwyso’n briodol mewn cydweithrediad ag ysgolion. Fodd bynnag, roedd effaith gorfodaeth statudol ar wella presenoldeb dros gyfnod yn amrywiol ac yn aml yn gyfyngedig, yn enwedig lle roedd absenoldeb yn gysylltiedig ag amgylchiadau teuluol cymhleth, pryderon ynghylch lles neu ddiffyg ymgysylltiad dwfn. Mewn lleiafrif o awdurdodau lleol, roedd anghysondebau o ran sut roedd prosesau statudol yn cael eu cymhwyso rhwng ysgolion neu swyddogion o ganlyniad i gapasiti’r gweithle a dulliau i fynd i’r afael ag absenoldebau parhaus yn creu heriau ar gyfer gweithredu teg.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn