Erthyglau newyddion |

Mae canfyddiadau cynnar adolygiad o drefniadau amddiffyn plant yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw

Share this page

Mewn ymateb i nifer o farwolaethau trasig ymhlith plant ledled Cymru a Lloegr, cafodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ei gwahodd gan Llywodraeth Cymru i arwain adolygiad cyflym aml-asiantaeth o'r penderfyniadau a wneir mewn perthynas ag amddiffyn plant. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn yw’r arolygiaethau eraill sy’n ymwneud â’r gwaith yma.

Pwrpas yr adolygiad hwn yw pennu i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ac yn cael eu tynnu oddi arni, yn briodol (pan fydd tystiolaeth ddigonol yn nodi ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny).
 

Esboniodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC y dull y maent wedi'i fabwysiadu hyd yma a pham mae'r gwaith hwn mor bwysig.

Rydym wedi dewis cyhoeddi’r canfyddiadau interim cynnar hyn er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd a hyrwyddo arfer gorau cyn gynted â phosibl. Mae’r canfyddiadau cychwynnol hyn wedi’u llywio gan adborth gan gymheiriaid mewn addysg, yr heddlu, iechyd, a byrddau diogelu rhanbarthol yn ogystal â siarad yn uniongyrchol â'r plant a'r bobl ifanc sydd ar y gofrestr amddiffyn plant neu sydd wedi bod arni. Mae’r gwaith ymgynghori hwn yn dal i fynd rhagddo, ac rydym yn awyddus iawn i glywed mwy gan y plant a’r bobl ifanc hynny.

Mae’r dull cydweithredol hwn yn amlygu’r ffaith bod diogelu yn fusnes i bawb. Fel arolygiaethau, roeddem am weithio gyda’n gilydd i gael darlun cyfannol o arfer gyfredol ledled Cymru ac i nodi gyda’n gilydd yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae lle i wella. Mae'r canfyddiadau cychwynnol wedi dangos bod arferion da yn bodoli, fodd bynnag mae angen eu cymhwyso'n gyson yn lleol ac yn genedlaethol. Mae angen i ni sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau.

Mae’r arolygiaethau’n annog ymarferwyr ledled Gymru sy’n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant i symud ymlaen a dysgu o’r canfyddiadau cynnar hyn, i gryfhau gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y tymor byr ac yn y tymor hwy.

Bydd yr adroddiad llawn, sy’n un o sawl darn o waith sy’n ymwneud â diogelu plant, yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2023.