Erthyglau newyddion |

Mae angen cryfhau’r ffordd o reoli symudiadau ysgol ar gyfer disgyblion sydd wedi ymddieithrio

Share this page

Mae disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio neu gael eu gwahardd sy’n dechrau o’r newydd mewn ysgol newydd yn cael profiad gwell pan fydd yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r teulu yn cydweithio’n agos yn gynnar. Yn yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus, mae ysgolion yn goresgyn rhwystrau posibl rhag rheoli trosglwyddo disgybl o un ysgol i un arall trwy gynnwys pawb mewn cynllunio’r symudiad yn ofalus.

Mae adroddiad Estyn, ‘Defnydd effeithiol o symudiadau rheoledig gan awdurdodau lleol ac ysgolion’, yn archwilio trosglwyddo disgyblion a allai fod ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol ac sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn barhaol, yn peryglu lles pobl eraill, neu’n gwrthod mynd i’r ysgol.  Mae astudiaethau achos effeithiol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad i annog awdurdodau lleol ac ysgolion i fyfyrio ar eu harferion presennol.

Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

Mae rheoli symudiad disgybl i roi cynnig ar ysgol newydd i gael dechrau newydd yn gallu cynnig dewis arall realistig yn lle gwahardd y disgybl yn barhaol ac yn dileu’r defnydd o waharddiadau answyddogol fel ffordd o reoli ymddygiad heriol.  Mewn ysgolion effeithiol, caiff symudiad rheoledig ei gynnig fel cymorth cynnar i sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i lwyddo, a phan fydd yn briodol, gallan nhw ddychwelyd i’w hysgol gartref. 

Mae rheoli’r symudiadau hyn yn ofalus yn her i fwyafrif yr ysgol, ac un o argymhellion yr adroddiad heddiw yw cryfhau’r arweiniad i fynd i’r afael ag anghysondebau mewn arfer ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn amlygu ysgol uwchradd Coedcae yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi cryfhau ei darpariaeth i ddysgwyr agored i niwed, fel bod mwy o ddisgyblion yn gallu cynnal eu lle heb fod angen symud i ysgol arall.  Trwy oresgyn cyfyngiadau ariannol, cyflwyno polisïau newydd a hyfforddi staff, mae’r ysgol yn sicrhau bod unrhyw blentyn a oedd yn dechrau dangos arwyddion emosiynol neu ymddygiadol yn gallu manteisio’n brydlon ar gymorth personol.  Mae’r ysgol wedi gweld gostyngiad nodedig yn nifer y gwaharddiadau am gyfnod penodol ac yn nifer y ceisiadau am symudiadau rheoledig a wneir i’r awdurdod lleol.  Mae ei hethos cynhwysol wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phresenoldeb disgyblion hefyd.

Mae arferion monitro ac olrhain presennol yn golygu nad oes data cenedlaethol am nifer y disgyblion sy’n destun symudiad rheoledig.  Mae arolygwyr Estyn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gasglu’r data hwn, yn ogystal â chryfhau’r arweiniad ar gyfer ysgolion a’r hawliau cyfreithiol ar gyfer disgyblion sy’n destun symudiad rheoledig, fel eu bod yn cyd-fynd â’r hyn a geir ar gyfer disgyblion sy’n cael eu gwahardd yn barhaol.  Mae’r 12 argymhelliad yn yr adroddiad hefyd yn amlinellu camau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n anelu at wella’r profiad a’r cymorth ar gyfer disgyblion sy’n symud ysgolion, a’u teuluoedd.

Ynglŷn â’r adroddiad