Erthyglau newyddion |

Mae addysgu effeithiol wrth wraidd diwygio’r cwricwlwm, dywed Estyn

Share this page

Heddiw, mae Estyn wedi tynnu sylw at y modd y mae detholiad o ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru yn arwain y ffordd o ran datblygu cwricwlwm arloesol i ymateb i’r agenda diwygio genedlaethol. Mae arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn deall pwysigrwydd rhannu sut beth yw addysgu effeithiol, ac maent yn cynorthwyo staff i fagu hyder wrth roi cynnig ar ffyrdd newydd o addysgu ac ysbrydoli disgyblion.

Mae adroddiad heddiw, ‘Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd’, yn disgrifio ymagweddau y dylai ysgolion eu hystyried wrth gynllunio cwricwlwm i ddatblygu dysgwyr galluog, mentrus a hyderus.  Mae’r adroddiad yn defnyddio ymweliadau â 30 o ysgolion cynradd ac yn nodi pedwar cyfnod datblygu penodol  mewn ysgolion wrth iddynt drawsnewid eu harferion addysgu a dysgu. 

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Mae’r daith tuag at ddiwygio’r cwricwlwm yn mynnu cynllunio gofalus.  Gall pob ysgol, gan gynnwys ysgolion cynradd, ddefnyddio’r pedwar cam a amlinellwyd yn ein hadroddiad fel strwythur i gefnogi’u meddwl cwricwlaidd a’u dysgu proffesiynol, o hunanarfarnu a chynllunio, i gyflawni ac arfarnu newid.”

“Mae Estyn yn annog ysgolion i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau addysgu effeithiol fel sail i’w cynlluniau cwricwlwm.  Bwriedir i’r adroddiad hwn a’r astudiaethau achos gynorthwyo ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer eu cwricwlwm newydd.  Er enghraifft, mae Ysgol Gynradd Cornist Park wedi gweld llwyddiant ym mhob un o’r pedwar cam o’r cyfnod sylfaen ymlaen.”

Dechreuodd y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Cornist Park, Sir y Fflint, gydag archwiliad o’u cwricwlwm, gan nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.  Oddi yno, aeth arweinwyr ati i gynllunio ar gyfer newid trwy dreialu ‘wythnosau â thema’ ar destunau gwahanol.  Drwy archwilio ffyrdd newydd o addysgu, mae’r ysgol wedi gallu rhoi newidiadau ar waith yn hwylus.  Gyda chylch parhaus o arfarnu, adolygu, monitro a newid, mae’r ysgol wedi gweld gwelliannau o ran creadigrwydd, hunan-barch a chymhelliant disgyblion sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau.

Mae’r adroddiad yn nodi rhwystrau rhag newid y cwricwlwm yn llwyddiannus.  Gall cynllunio annigonol, datblygu medrau yn anghyson, a bod yn rhy betrus arafu cynnydd.  Mae’r adroddiad yn nodi’n fanwl beth sy’n gweithio’n dda, ac mae’n darparu cwestiynau hunanarfarnu i helpu ysgolion i fyfyrio ar eu darpariaeth eu hunain.

 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Cafodd adroddiad Estyn ‘Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd’ ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/chwilio
  • Mae Estyn yn cynnal dwy gynhadledd ar 22 a 24 Mai lle bydd rhai o’r ysgolion o adroddiad heddiw yn cyflwyno gweithdai i helpu rhannu’u harfer dda.
  • Ymwelodd arolygwyr â 30 o ysgolion ar gamau gwahanol o ddatblygu’r cwricwlwm gan gynnwys sampl gynrychioliadol fras ym mhob rhanbarth.

Astudiaethau achos

Pen-y-bont ar Ogwr

Caerffili

Caerdydd

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Gwynedd

Sir Fynwy

Casnewydd

Powys

Abertawe

Bro Morgannwg

Wrecsam