Arfer Effeithiol |

Sesiynau trafod yn amlygu cyfleoedd am ddiwygio pellgyrhaeddol

Share this page

Nifer y disgyblion
150
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destun

Mae Ysgol y Faenol ym mhentref Bodelwyddan, tua phedair milltir i’r dwyrain o Abergele.

Ar hyn o bryd, mae 150 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, gan gynnwys 20 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n bum dosbarth oedran cymysg.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith ac mae rhai ohonynt yn cael cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol.  Daw rhai disgyblion o gymuned ethnig leiafrifol.

Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Ymatebodd yr ysgol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cwricwlwm newydd arfaethedig trwy drefnu cyfres o weithdai ar gyfer staff a llywodraethwyr.  Canolbwyntiodd y gweithdai hyn yn bennaf ar yr hyn yr oeddent ei eisiau ar gyfer cwricwlwm newydd.  Aeth arweinwyr yr ysgol i’r afael â’r awydd i ddatblygu ymagwedd fwy arloesol a chreadigol at addysgeg.  Roedd pob un o’r cyfranwyr yn frwdfrydig ac yn awyddus i fynd ar eu taith i ddatblygu’r cwricwlwm, sef un a fyddai’n galluogi disgyblion i ddatblygu medrau’n hyderus ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.  Fe wnaethant drafod yr argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), a chytuno bod angen i arweinwyr wneud y canlynol ar gyfer unrhyw newidiadau yn eu cwricwlwm:

  • ystyried i ba raddau y mae staff eisoes yn cynorthwyo plant i ddatblygu’r agweddau a’r tueddfryd a amlinellir yn y pedwar diben
  • ystyried beth mae staff yn ei wneud yng nghyd-destun y cwricwlwm cenedlaethol i gryfhau arfer ac addysgeg

Ymatebodd arweinwyr i hyn trwy arfarnu darpariaeth bresennol yr ysgol.  Nododd adroddiad arolygiad yr ysgol, “mae’r ysgol yn bodloni anghenion y disgyblion yn dda trwy ystod eang o brofiadau dysgu ysgogol ac arloesol.”  O ganlyniad i’r farn hon, ymatebodd y staff i Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), â phryder ac ansicrwydd.  Roeddent yn teimlo nad oedd angen iddynt newid y ffordd yr oeddent yn gweithio ac roeddent yn ofni mentro ar draul gwanhau cwricwlwm sefydledig ac effeithiol.  Yng ngoleuni hyn, cynhaliodd y pennaeth gyfres o sesiynau trafod a oedd yn canolbwyntio ar ddeall pob un o’r pedwar diben.  Galluogodd y cyfarfod i’r staff nodi arfer dda bresennol ac agweddau nad oeddent eisiau eu newid, yn ogystal ag elfennau o’r pedwar diben yr oedd angen eu datblygu a’u cynnwys yn eu cynllunio.

Fe wnaeth adborth gan athrawon a chynorthwywyr addysgu a thystiolaeth a gasglwyd o ddata monitro, craffu ar waith, arsylwadau gwersi ac adborth rhanddeiliaid lywio eu harfarniad a rhoi trosolwg i staff o’r hyn a oedd eisoes yn gweithio’n dda.  Fodd bynnag, sylweddolon nhw’n gyflym iawn eu bod yn cydnabod yr angen am ddiwygio radical i ymgorffori pedwar diben Donaldson, er eu bod yn meddwl ar y dechrau nad oedd rhyw lawer o angen am newid.  Fe wnaeth yr arfarniad ennyn brwdfrydedd ymhlith staff.  Roeddent yn teimlo’n gyffrous ynglŷn â’r posibilrwydd i gael mwy o berchnogaeth dros y cwricwlwm.  Roedd arweinwyr yn rhoi amser i athrawon feddwl.  Roeddent yn rhoi’r rhyddid i staff ganolbwyntio’n hyderus ar brosiectau a mentrau a fyddai’n rhoi cyfleoedd helaeth a chreadigol i ddatblygu eu disgyblion fel dysgwyr uchelgeisiol, galluog a chreadigol.  Roeddent yn canolbwyntio ar y disgyblion, nid ar gynnwys y cwricwlwm.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Yn dilyn y sesiynau trafod, ymgorfforodd arweinwyr y meysydd i’w datblygu yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Roedd y meysydd hyn yn cynnwys datblygu:  

  • prosiectau llafaredd, gan gynnwys ‘Noisy Classrooms’ a ‘Talk for Writing’
  • cryfhau llais y disgybl
  • gwaith cartref trochi
  • prosiectau dysgu ar y cyd
  • gwydnwch ac ymyriadau iechyd meddwl

Gan fod y blaenoriaethau hyn wedi’u cynnwys yng nghynllun datblygu’r ysgol, galluogodd hyn arweinwyr i ddyrannu adnoddau’n briodol.  Bu staff yn arbrofi â’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd, a oedd yn galluogi athrawon i ddatblygu eu harfer ac ymestyn eu profiadau.  Er enghraifft, cymerodd athrawon gyfrifoldeb am ddatblygu elfen yn canolbwyntio ar agweddau penodol fel cydweithio, dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth.  Ni chafodd staff gymorth penodol gan unrhyw asiantaethau penodol, ond buont yn cydweithio o fewn rhwydwaith llwyddiannus o ysgolion cynradd.

Bu arweinwyr yn gweithio’n galed i ddatblygu diwylliant meddylfryd twf ysgol gyfan, sy’n sicrhau bod staff mewn sefyllfa gadarnhaol ar gyfer symud ymlaen a pharatoi ar gyfer newid y cwricwlwm.  Mae staff a disgyblion wedi datblygu ymagwedd at ddysgu sy’n eu hannog i ymgymryd â heriau, dysgu oddi wrth gamgymeriadau, dyfalbarhau a mentro’n bwyllog.  Mae cael ethos o’r fath yn galluogi disgyblion i ymateb yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig i’r newidiadau.

Dyma’r prif bwyntiau ffocws sy’n cael eu datblygu yn yr ysgol ar hyn o bryd, yn dilyn cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015):

Datblygu cydweithio ystyrlon o un ysgol i’r llall

Mae rhannu arfer dda a syniadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm ymhlith cyfoedion wedi bod yn werthfawr.  Mae hyn yn galluogi staff i ehangu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud cwricwlwm arloesol.  Maent yn ymwybodol nad yw pob disgybl yn ymateb i’r un arddulliau addysgu, a bod angen i athrawon eu hatgoffa eu hunain am hyn.  Maent yn gweithio’n llwyddiannus ar feithrin perthnasoedd rhyngddyn nhw eu hunain a’r disgyblion.

Datblygu dysgu proffesiynol staff

Caiff athrawon eu hannog i arwain prosiectau sy’n cynnwys ymchwil ac arfarnu, rhannu arfer dda, cydweithio â chydweithwyr, a gweithio mewn lleoliadau eraill.  O ganlyniad, mae staff yn datblygu addysgeg effeithiol trwy gynnal brwdfrydedd ar gyfer addysgu.  Mae gan bron bob un ohonynt ddealltwriaeth fanwl o’r broses ddysgu ac maent wedi ymrwymo i’w taith ddysgu eu hunain, ac nid oes ofn arnynt fentro’n bwyllog.   

Mwy o bwyslais ar ddatblygu medrau llafaredd a llais y disgybl

Pan oedd athrawon a staff cymorth yn ystyried strategaethau i ddatblygu’r pedwar diben, roeddent yn teimlo’n gryf fod medrau cyfathrebu da ar lafar yn nodwedd allweddol o ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, ac unigolion iach a hyderus.  Roeddent yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafaredd disgyblion trwy brosiectau penodol fel Noisy Classrooms, Talk for Writing, Collaborative Learning a thrwy ddatblygu llais y disgybl ymhellach.

Wrth gynllunio ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, amlygodd arfarniad yr ysgol un rhwystr pwysig a allai rwystro eu gallu rhag datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog.  Dangosodd dadansoddiad o ddata asesu’r ysgol nad oedd medrau siarad a gwrando mwyafrif y bechgyn mor uchel â rhai merched.  Bu staff yn myfyrio ar y wybodaeth hon a’r goblygiadau ar gyfer cynllunio gweithgareddau i ddatblygu unigolion hyderus, sy’n gallu byw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.  Roedd arweinwyr yn awyddus i fynd i’r afael â’r mater hwn gan eu bod yn teimlo ei fod yn allweddol i roi’r pedwar diben ar waith yn llwyddiannus.

Roedd swyddogion cymorth ymddygiad yr awdurdod lleol yn rhoi arweiniad i staff ar fodloni anghenion unigolion a oedd yn ei chael yn anodd ymateb i wrthdaro.  Trwy weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Uwchradd y Fflint, datblygodd staff weithgareddau trafod trwy eu menter ‘Noisy Classroom’.  Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar ymgysylltu â bechgyn sydd wedi ymddieithrio yn ogystal â disgyblion mwy abl nad ydynt yn siaradwyr hyderus neu lwyddiannus.  Mae dadleuon rheolaidd yn mynd ati i annog ‘siarad’ ac yn cynnig cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion anghytuno a dadlau â’i gilydd.  Mae’r pwyslais bob amser ar ganiatáu i bobl eraill siarad ac aros yn bwyllog pan fydd eu cyfoedion yn anghytuno â nhw.  Mae’n rhy gynnar o hyd i arfarnu canlyniadau’r fenter hon, ond mae’r pennaeth yn hyderus fod gallu bechgyn i fynegi eu hunain yn glir ac yn barchus heb fod yn ymosodol wedi gwella’n sylweddol.  Mae hyn wedi galluogi’r staff i gynllunio gweithgareddau pwrpasol ac uchelgeisiol heb ofni y gallai ychydig bach o aflonyddwch gael effaith negyddol ar ddysgu.

Mae athrawon yn cynnwys disgyblion mewn cynllunio ac yn credu bod hyblygrwydd y cwricwlwm newydd yn galluogi iddynt effeithio ar eu dysgu eu hunain mewn ffordd fwy ystyrlon.  Er enghraifft, ar ddechrau testun newydd, mae athrawon yn darllen nofel i’r disgyblion.  Wrth ddarllen y stori, gallent oedi ar adegau allweddol yn y testun, gan amlygu bod ‘problem’.  Mae’r athrawon yn crynhoi’r broblem ac yn gofyn i ddisgyblion drafod atebion posibl gyda phartner.  Mae disgyblion yn rhannu eu syniadau gyda’r dosbarth cyfan ac mae athrawon yn defnyddio’r syniadau hyn i nodi cyfleoedd dysgu ar gyfer y dyfodol. 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd

pdf, 940.23 KB Added 17/05/2018

Darganfyddwch ddull pedwar cam y gall eich ysgol ei ddefnyddio fel strwythur i gefnogi syniadau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. ...Read more