Erthyglau newyddion |

Estyn yn annog arweinyddiaeth fwy amrywiol â rhaglen newydd

Share this page

Heddiw, mae Estyn wedi lansio rhaglen ddatblygu i helpu lleihau’r rhwystrau rhag dilyniant i weithwyr proffesiynol addysg o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae’r rhaglen ar agor i arweinwyr canol ac uwch arweinwyr sy’n gweithio mewn ysgolion pob oed, cynradd ac uwchradd a cholegau AB sy’n dyheu am gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. Gall ymgeiswyr ddatblygu medrau arweinyddiaeth a hunanwerthuso addysgol hollbwysig trwy arolygu, gael eu mentora gan AEF profiadol a dyfnhau eu dealltwriaeth o arfer effeithiol.

Nod y rhaglen yw amrywiaethu’r gronfa arolygu, rhoi hwb i brofiadau a gyrfaoedd y rhai dan sylw ac felly cyfrannu at fwy o amrywiaeth mewn arweinyddiaeth ym myd addysg ar bob lefel.

Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd,

m mis Mawrth 2019, dim ond 15 o unigolion o gefndiroedd ethnig nad ydynt yn wyn a oedd wedi’u cofrestru’n benaethiaid neu’n uwch arweinwyr yng Nghymru – llai nag 1% o’r gweithlu. Ond mae gan Gymru lawer o arweinwyr ysbrydoledig a chymhellol o bob cefndir ar draws y byd addysg sy’n wynebu rhwystrau rhag dilyniant yn eu gyrfaoedd.
Mae gan bawb yng Nghymru ran i’w chwarae i ddatys y sefyllfa hon ac rwy’n falch y gall Estyn chwarae rôl. Mae’r rhaglen beilot hon yn rhan bwysig o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth ar draws pob lefel arweinyddiaeth a chronfa’r arolygwyr rydyn ni’n gweithio â nhw, fel bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Dywed Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg,

Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu cynrychiolaeth ym mhob maes o’n gweithlu addysg. Mae angen i’n pobl ifanc adnabod eu hunain a’u profiadau eu hunain o fewn eu modelau rôl arwain, a dyna pam mae’r rhaglen ddatblygu hon mae Estyn yn ei lansio heddiw mor bwysig.
Rydym yn gwybod bod sefydliadau sy’n denu ac yn datblygu unigolion o’r garfan ehangaf o ddoniau yn perfformio’n well yn gyson.

Dywed yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ei bod

yn falch o gefnogi gweithredu’r rhaglen hon trwy ein ffrwd cyllido arloesedd. Fel sefydliad, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu cynrychiolaeth arweinwyr mwyafrif byd-eang ar draws yr holl leoliadau addysg yn y broses arolygu.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor tan ddydd Llun 29 Mehefin. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn ysgol yng Nghymru ar hyn o bryd, bod ag o leiaf pum mlynedd o brofiad o addysgu a bod yn gyfrifol am ddatblygu addysgu, dysgu neu les.