Erthyglau newyddion |

Er gwaethaf ffocws cryf ar les disgyblion, nid yw ysgolion uwchradd yn sylweddoli graddau’r aflonyddu rhywiol rhwng disgyblion

Share this page

Dywed pobl ifanc fod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd ar-lein a’r tu allan i’r ysgol yn bennaf, ond maent eisiau i athrawon a staff ysgol ddeall pa mor gyffredin ydyw. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, dywedodd disgyblion eu bod nhw eisiau i athrawon gymryd camau rhagweithiol ac ataliol i ddelio ag ef. 

Mewn grwpiau ffocws gyda 1,300 o ddisgyblion rhwng 12 ac 18 oed, dywedodd tua hanner ohonynt fod ganddynt brofiad personol o ryw fath o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Dywed dwywaith cymaint o ferched na bechgyn iddynt fod yn destun naill ai aflonyddu wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn cynnwys cael eu beirniadu am eu hymddangosiad neu fod rhywun yn gofyn iddynt rannu ffotograffau noeth.

Yn gyffredinol, mae ysgolion yn delio’n dda â digwyddiadau difrifol, ond gan nad yw disgyblion yn aml yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod am ddigwyddiadau, mae hyn yn cyfyngu ar eu dealltwriaeth o raddau’r broblem.

Mae aflonyddu rhywiol yn broblem gymdeithasol, ac mae ysgolion yn aml yn delio â materion sy’n deillio o’r tu allan i’r ysgol. Canfu Estyn fod angen i ysgolion uwchradd yng Nghymru ymgysylltu’n fwy effeithiol â disgyblion i gydnabod a bod yn rhagweithiol yn atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd rhwng disgyblion. 

Dywed Claire Morgan, y Prif Arolygydd,

Fe wnaeth pob un disgybl a rannodd ei brofiadau â’n harolygwyr gymryd cam enfawr ymlaen i roi sylw i’r problemau hyn. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am fod mor agored a dewr wrth gael sgyrsiau anodd. Rwy’n eithriadol o bryderus am ein canfyddiadau, ac yn gwybod y bydd athrawon, rhieni a disgyblion yn poeni hefyd. 

Mae llawer i’w wneud – mwy o hyfforddiant i staff, mabwysiadu ymagwedd ataliol ar draws pob ysgol, a mynd i’r afael â phroblemau ar lefel genedlaethol. Bydd yr adroddiad yn bwysig iawn i ysgolion wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer agweddau Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, ac yn benodol, addysg cydberthynas a rhywioldeb.


Clywodd arolygwyr fod disgyblion yn gwerthfawrogi cael gwersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) wedi’u cyflwyno’n dda, ond nid ydynt yn cael digon o gyfleoedd i drafod rhywioldeb a pherthnasoedd iach. 

Canfu’r adroddiad hefyd fod yr ysgolion mwyaf effeithiol yn hyrwyddo ethos cryf o barch ac yn dathlu amrywiaeth ar draws pob maes. Mae arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn creu ymagwedd ysgol gyfan yn rhagweithiol i atal ymddygiad negyddol a niweidiol rhwng cyfoedion, a’i gwneud yn haws i bobl ifanc roi gwybod am brofiadau negyddol. 

Yn yr adroddiad, ceir cipluniau dienw o arfer dda y gall ysgolion eu defnyddio i fyfyrio ar eu hymagweddau eu hunain. Hefyd, mae Estyn wedi cyhoeddi adnoddau i gefnogi ysgolion i gynllunio eu darpariaeth ar gyfer agwedd Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru.

Mae Claire Morgan yn parhau,

Rwy’n gwerthfawrogi’r ymateb cadarnhaol gan benaethiaid a staff ysgol i’r adolygiad pwysig hwn. Ymgysyllton nhw’n dda â ni yn ystod cyfnod heriol. Rwy’n optimistaidd y bydd adroddiad heddiw yn drobwynt ac yn helpu ysgolion i roi cymorth gwell i bobl ifanc i gael perthnasoedd iach â chyfoedion, yn rhydd o aflonyddu rhywiol.