Erthyglau newyddion |

Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal

Share this page

Mae plant sy’n derbyn gofal yn wynebu rhwystrau o hyd rhag cyrraedd a chyflawni mewn dysgu.

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod bwlch mawr o hyd rhwng cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal a chyrhaeddiad disgyblion eraill.  Fodd bynnag, mae ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn cymryd camau i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal, gan eu helpu i gyflawni eu potensial a chodi eu dyheadau.

Mae adroddiad Estyn, ‘Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’, yn canolbwyntio ar enghreifftiau o arfer orau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol.  Caiff y rhain eu dangos trwy gyfres o astudiaethau achos.

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

“Nid yw bron i hanner (45%) y plant sy’n derbyn gofal yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) nac mewn cysylltiad â’u hawdurdod lleol yn 19 oed.  Mae hyn o gymharu â thua 5% o blant eraill.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos, gydag ymrwymiad, penderfynoldeb a gweledigaeth strategol glir, gellir mynd i’r afael â bylchau mewn cyrhaeddiad a’u lleihau.”

Y canfyddiadau

Canfu’r adroddiad bod gan yr ysgolion a’r awdurdodau lleol sy’n fwyaf effeithiol o ran cynorthwyo plant sy’n derbyn gofal nifer o nodweddion cyffredin, sef:

  • cymorth bugeiliol cryf yn ystod argyfyngau neu anawsterau personol

  • olrhain effeithiol i fonitro cynnydd

  • cynlluniau addysg personol sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau clir, gan gynnwys nodau ar gyfer datblygiad personol ac annibyniaeth

  • parodrwydd i wrando a defnyddio adborth gan blant a gofalwyr

  • hyfforddiant rheolaidd i staff

  • uwch arweinwyr sy’n cydnabod yr angen am gymorth ac arweiniad ychwanegol, ac yn sicrhau y cânt eu rhoi

Mae’r astudiaethau achos arfer orau yn dangos ystod eang o strategaethau i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal.

Ysgol Gyfun Brynteg

Mae’r ysgol yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal i ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i ddisgyblion, i ymestyn eu profiadau diwylliannol a chydweithio â gofalwyr maeth.  Mae’n cynnwys disgyblion a gofalwyr mewn penderfyniadau ar sut i ddefnyddio’r cyllid grant i gynorthwyo popeth o hyfforddiant ychwanegol neu “wersylloedd ymarfer” llythrennedd a mathemateg i becynnau adolygu, clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau gwyliau.  

Mae disgyblion yn mwynhau’r ysgol ac yn cael cyfleoedd i gyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol.  Mae presenoldeb plant sy’n derbyn gofal, sef 95%, yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer disgyblion eraill.  Ni fu unrhyw waharddiadau parhaol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac mae nifer y gwaharddiadau am gyfnod penodol yn isel iawn.

Yng nghyfnod allweddol 3, cyflawnodd llawer o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran yn y pynciau craidd.  Cyflawnodd yr holl ddisgyblion TGAU ddangosyddion lefel 1 a 2.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol adeiladu ar yr enghreifftiau niferus o arfer orau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

Gallai consortia rhanbarthol wella’r modd y maent yn cynllunio ar gyfer grantiau cymorth i sicrhau bod ysgolion yn glir ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio grantiau.  Hefyd, mae angen i’w cynlluniau roi digon o ystyriaeth i anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plentyn ac ymestyn y tu hwnt i’r oedran ysgol statudol.  Hefyd, mae angen sicrhau bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol ar gyfer anghenion lleol ac wedi’u seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy’n derbyn gofal.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Arfer dda mewn ysgolion

  • Strategaeth
  • Cwricwlwm a chyfoethogi
  • Olrhain
  • Mentora a chymorth ar gyfer lles emosiynol
  • Pontio a lleoliad addysg
  • Datblygiad proffesiynol ar gyfer staff
  • Llais y dysgwr
  • Partneriaethau gyda rhieni a gofalwyr
  • Rôl llywodraethwyr
  • Y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

Arfer dda mewn awdurdodau lleol

  • Polisi awdurdodau lleol
  • Strategaeth awdurdodau lleol
  • Rôl aelodau etholedig
  • Systemau gwybodaeth reoli
  • Penderfyniadau am leoliad
  • Rôl cydlynydd addysg plant sy’n derbyn gofal
  • Gwaith gyda rhieni a gofalwyr
  • Arfarnu ymyriadau a rhannu arfer orau
  • Ymwelodd arolygwyr â’r ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia canlynol:

Ysgolion

  • Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh, Y Trallwng
  • Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe
  • Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Colcot, Bro Morgannwg
  • Ysgol Gyfun Gymunedol Cwrt Sart, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gymunedol Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful
  • Ysgol Gynradd Sirol Maerdy, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gynradd Pen-y-bont, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, Caerffili
  • Ysgol Gynradd Tredelerch, Caerdydd
  • Ysgol Gyfun Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf
  • Canolfan Datblygu Plant Woodlands, Wrecsam
  • Ysgol Dyffryn Conwy, Conwy
  • Ysgol y Castell, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol y Gogarth, Conwy

Awdurdodau lleol

  • Cyngor Sir Gâr
  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • Dinas a Sir Abertawe
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Penfro
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Consortia rhanbarthol

  • Canolbarth y De: yn cynnwys Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg
  • Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS): yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen
  • ERW: Sir Gâr, Powys, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • GWE: yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn

Ystyriodd yr adroddiad arolygon blaenorol Estyn, canfyddiadau arolygu a data.Rhoddodd sylw i ystod o adroddiadau ac ymchwil eraill am brofiadau dysgwyr ac addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.