Arfer gwyddoniaeth gref i’w gael ledled Cymru, ond anghysondebau yn y ddarpariaeth yn parhau i effeithio ar gynnydd disgyblion
Mae adroddiad newydd gan Estyn yn amlygu cryfderau pwysig mewn addysg wyddoniaeth ledled Cymru, gan nodi anghysondebau mewn dylunio cwricwlwm, addysgu ac asesu sy’n cyfyngu ar ba mor effeithiol y mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth a rhesymu gwyddonol.
Mae’r adroddiad, Addysgu a Dysgu Gwyddoniaeth: Addysgu ar gyfer dealltwriaeth mewn ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth, yn gwerthuso ansawdd addysgu a dysgu mewn gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed ledled Cymru. Mae’n ystyried pa mor effeithiol y mae ysgolion yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ymholi gwyddonol disgyblion trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg o fewn Cwricwlwm i Gymru.
Canfu arolygwyr enghreifftiau o arfer gref mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, fel ei gilydd, lle mae arweinwyr wedi datblygu cynlluniau cwricwlwm cydlynus, wedi cryfhau arbenigedd pwnc ac wedi cynorthwyo disgyblion i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol dros gyfnod. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae disgyblion yn elwa ar brofiadau ymarferol difyr, cyd-destunau byd go iawn ystyrlon ac addysgu effeithiol sy’n eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth gadarn a chymhwyso’u dysgu yn hyderus.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad fod ansawdd darpariaeth gwyddoniaeth yn rhy amrywiol o hyd. Yn aml, mae gwendidau mewn cynllunio’r cwricwlwm, addysgu ac asesu yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion, yn enwedig wrth ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol a rhesymu gwyddonol. Yn aml, nid yw trefniadau i gefnogi dilyniant rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd wedi eu datblygu’n ddigonol, gan arwain at ailadrodd, bylchau mewn dysgu a lefelau anghyfartal o her.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu heriau sy’n wynebu’r sector, yn cynnwys anawsterau o ran recriwtio a chadw athrawon gwyddoniaeth arbenigol, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, a’r angen am gydweithio cryfach rhwng ysgolion i gefnogi dilyniant mewn dysgu.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:
“Mae gan wyddoniaeth rôl hanfodol mewn helpu pobl ifanc i ddeall y byd o’u cwmpas a’u paratoi ar gyfer astudio a chyflogaeth yn y dyfodol. Er ein bod ni wedi gweld enghreifftiau calonogol o arfer effeithiol mewn ysgolion ledled Cymru, mae gormod o ddisgyblion yn cael profiad o gwricwlwm gwyddoniaeth anghyson nad yw’n meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ddigon systematig dros gyfnod.
“Mae lle i ysgolion gryfhau cynllunio’r cwricwlwm, addysgu ac asesu mewn gwyddoniaeth a gweithio gyda’i gilydd yn agosach i gefnogi dilyniant o addysg gynradd i addysg uwchradd. Ar yr un pryd, bydd buddsoddiad parhaus mewn dysgu proffesiynol ac arbenigedd yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael addysg wyddoniaeth o ansawdd uchel.”
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion gryfhau gwybodaeth bwnc addysgegol athrawon, gwella cynllunio’r cwricwlwm i gefnogi dilyniant mewn dealltwriaeth a rhesymu gwyddonol, a gwella prosesau arweinyddiaeth fel bod arweinwyr yn gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar ddysgu disgyblion yn fwy effeithiol.
Mae Estyn hefyd yn galw ar awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion a Llywodraeth Cymru i ddarparu dysgu proffesiynol cryfach sy’n benodol i wyddoniaeth, gwella cydweithio rhwng ysgolion, cefnogi darpariaeth gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg a mynd i’r afael â phrinderau parhaus o athrawon gwyddoniaeth arbenigol.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.