Adnodd newydd â’r bwriad o gryfhau hunanwerthuso a gwelliant parhaus ar draws system addysg drydyddol Cymru
Nod adnodd ar y cyd newydd gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Uwch (QAA) yw cefnogi darparwyr ar draws system addysg drydyddol Cymru i gryfhau eu harferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus.
Mae’r microwefan newydd, Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru, yn dwyn ynghyd canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan Medr dan arweiniad Estyn a QAA. Mae’n darparu set o egwyddorion a rennir, cwestiynau myfyriol, mewnwelediadau sector ac argymhellion i helpu darparwyr i werthuso eu gwaith yn fwy effeithiol a gwella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar draws yr ystod amrywiol o ddarparwyr o fewn system drydyddol Cymru, gan gynnwys colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, darparwyr prentisiaethau, partneriaethau dysgu oedolion, chweched dosbarth ysgolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.
Nododd y prosiect 12 egwyddor allweddol ar gyfer hunanwerthuso effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar y dysgwr, bod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael ei arwain gan effaith, yn canolbwyntio ar weithredu a bod yn dryloyw. Bwriad yr egwyddorion yw cefnogi darparwyr i fyfyrio’n feirniadol ar eu harfer a chryfhau eu dulliau o wella, gan gydnabod y gwahanol gyd-destunau y mae darparwyr yn gweithredu ynddynt.
Gan ddefnyddio tystiolaeth arolygu, adolygiadau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil ryngwladol, canfu’r prosiect fod gan lawer o ddarparwyr brosesau hunanwerthuso wedi’u sefydlu. Mae cryfderau cyffredin yn cynnwys ymgysylltu cryf â dysgwyr, defnydd effeithiol o dystiolaeth a threfniadau sicrhau ansawdd clir. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gryfhau arfer, yn enwedig drwy ganolbwyntio’n fwy manwl ar effaith y ddarpariaeth ar ddysgwyr, gwella ansawdd cynllunio gwelliant a gwneud defnydd gwell o ddata.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae hunanwerthuso fwyaf effeithiol pan fydd yn arwain at welliannau ystyrlon ym mhrofiadau a chanlyniadau dysgwyr. Mae’r adnodd hwn yn darparu fframwaith a rennir a all helpu darparwyr ledled Cymru i fyfyrio’n onest ar eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu, gan gydnabod amrywiaeth y system drydyddol.
“Rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â QAA a Medr ar y prosiect pwysig hwn. Drwy ddod ag arbenigedd o bob cwr o’r sectorau ynghyd, rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn cefnogi darparwyr i gryfhau eu prosesau gwella ansawdd a pharhau i godi safonau i ddysgwyr ledled Cymru.”
Dywedodd Maureen McLaughlin, Pennaeth Cymru, Gogledd Iwerddon a Goruchwyliaeth Addysgol, QAA:
“Mae ein cydweithrediad ag Estyn ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle cyffrous a chynhyrchiol i rannu a dysgu o arfer effeithiol ar draws sector trydyddol Cymru. Rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cynnig adnodd gwerthfawr i hyrwyddo a chryfhau gwerthuso a gwella darpariaeth ar draws ein sector cyfan yma yng Nghymru – a bydd hefyd o ddiddordeb a defnydd i’n cydweithwyr ledled y DU a thu hwnt.”
Mae’r microwefan newydd hwn yn adnodd cyntaf o’i fath wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Estyn a QAA. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad a rennir i gefnogi darpariaeth o ansawdd uchel a gwelliant parhaus ar draws y system addysg drydyddol yng Nghymru.
Bydd y microwefan yn parhau i ddatblygu dros amser, gydag astudiaethau achos ychwanegol, enghreifftiau o arfer effeithiol ac adnoddau eraill yn cael eu hychwanegu i gefnogi darparwyr i ymgorffori prosesau hunanwerthuso a gwella ansawdd effeithiol.
Bwriedir i’r adnodd fod yn offeryn ymarferol i gefnogi myfyrio a deialog broffesiynol. Nid yw’n cyflwyno gofynion statudol nac yn rhagnodi un dull o hunanwerthuso. Yn hytrach, ei nod yw annog darparwyr i ddatblygu dulliau sy’n gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae’r microwefan Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru ar gael yma.