Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn helpu disgyblion i deimlo'n ddiogel, ond nid yw darpariaeth yn gyson eto  - Estyn

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel, ond nid yw darpariaeth yn gyson eto 

Erthygl

A group of primary school pupils in blue school uniforms sit and kneel on a classroom carpet, working together on a hands-on learning activity. They are writing on paper hand cut-outs with pencils, while colourful counting cubes, a teaching clock and soft toys are nearby.

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn helpu llawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru i ddatblygu parch, dealltwriaeth a pherthnasoedd iach, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn.

Mae’r adroddiad, ‘Datblygu parch a dealltwriaeth: Ansawdd ac effaith addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, yn archwilio ansawdd ac effaith ACRh mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ledled Cymru. Ymwelodd arolygwyr â 30 o ddarparwyr, gan siarad gyda disgyblion, staff ac arweinwyr ac arsylwi sesiynau dysgu, gwasanaethau a grwpiau ffocws.

Canfu’r adroddiad fod llawer o ysgolion ac UCDau yn rhoi lles, diogelu a chynhwysiant wrth wraidd eu gwaith. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae perthnasoedd cadarnhaol wedi’u hymwreiddio trwy fywyd yr ysgol i gyd, gan greu amgylcheddau lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Canfu arolygwyr fod bron pob un o’r disgyblion yn mwynhau dysgu am berthnasoedd ac yn gwerthfawrogi cyfleoedd i drafod materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae llawer o ysgolion yn cynnig profiadau dysgu gwerthfawr sy’n helpu plant a phobl ifanc i archwilio themâu pwysig fel parch, emosiynau, teuluoedd amrywiol, hawliau plant, perthnasoedd iach ac afiach, rhagfarn a goddefgarwch.

Mae partneriaethau cryf â gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion yr heddlu a sefydliadau cymunedol hefyd yn helpu ysgolion i ymateb yn effeithiol i faterion sy’n wynebu pobl ifanc, gan gynnwys diogelwch ar‑lein, agweddau niweidiol a pherthnasoedd afiach.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi meysydd pwysig i’w gwella. Er bod llawer o ysgolion wedi mapio ACRh ar draws grwpiau blwyddyn, nid yw dilyniant mewn dysgu yn glir nac yn gydlynol bob tro. Yn aml, caiff pynciau sensitif fel rhywioldeb, cydsyniad, hunaniaeth rhywedd a stereoteipiau rhywedd eu haddysgu mewn modd anghyson. Canfu arolygwyr hefyd fod llawer o ymarferwyr yn brin o hyder wrth addysgu’r meysydd cymhleth hyn ac y byddent yn elwa ar ddysgu proffesiynol mwy arbenigol. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod darpariaeth yn cael ei gwerthuso’n rhy aml yn ôl p’un a roddwyd sylw i bynciau, yn hytrach nag yn ôl yr effaith ar wybodaeth, agweddau a phenderfyniadau disgyblion.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:

“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod llawer o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru wedi creu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol, lle gall plant a phobl ifanc ddysgu am berthnasoedd iach a theimlo’n ddiogel yn trafod materion sydd o bwys iddynt.

“Fodd bynnag, mae anghysondebau o ran sut mae rhai agweddau mwy sensitif ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael eu haddysgu. Wrth i blant a phobl ifanc dyfu, mae’n bwysig bod dysgu’n datblygu o ran manylder a chymhlethdod fel y gallant feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd fel oedolyn.

“Trwy gryfhau dilyniant, buddsoddi mewn dysgu proffesiynol a sicrhau cefnogaeth gyson ledled Cymru, gallwn helpu pob dysgwr i elwa ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel.”

Mae Estyn yn argymell y dylai ysgolion ac UCDau gryfhau cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau dilyniant clir mewn ACRh rhwng 3 ac 16 oed a gwella ansawdd a chysondeb addysgu trwy ddysgu proffesiynol targedig, sy’n benodol i’r pwnc. Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion, Dysgu a Llywodraeth Cymru i gryfhau cefnogaeth, cydweithio, arweiniad a chyllid ar gyfer ACRh, ynghyd â chynnwys enghreifftiau o arfer effeithiol ledled Cymru.