Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |
Myfyrdodau ar fireinio dysgu o bell mewn ysgolion arbennig a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau)
Mae ysgolion arbennig ac UCDau wedi datblygu a mireinio eu dulliau o ddysgu o bell yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rhannodd dwy ysgol arbennig a gynhelir a thair UCD eu profiadau yn y meysydd canlynol:
- prosesau monitro a ddefnyddiwyd i fyfyrio ar eu darpariaeth dysgu o bell,
- yr heriau a wynebwyd
- y newidiadau a wnaed
Trwy rannu sut aethant ati i fyfyrio ar ddysgu o bell a’i fireinio, ystyriodd yr ysgolion a’r UCDau peilot elfennau o weithgareddau digidol, ynghyd â gweithgareddau nad ydynt yn rhai digidol. Bu iddynt hefyd fyfyrio ar eu dulliau o addysgu a dysgu.