Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector ôl-16 – hydref 2020

Diweddarwyd y dudalen hon ar 11/07/2022

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ymgysylltu a wnaed i golegau addysg bellach, darparwyr hyfforddiant dysgu yn y gwaith, partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a darpariaeth dysgu yn y sector cyfiawnder rhwng diwedd mis Medi a dechrau mis Hydref 2020.

Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd o bell rhwng arolygwyr cyswllt ac uwch arweinwyr yn y sector ôl-16. Roedd y prif ffocws ar gyfer pob trafodaeth ar ddulliau i barhau â dysgu, ac ar ddysgu cyfunol, a sut roedd darparwyr a phartneriaethau yn darparu cymorth ar gyfer lles ac ymgysylltiad dysgwyr. Ysgrifennwyd yr adroddiad cyn y cyfnod clo atal byr ar ddiwedd mis Hydref 2020, ac mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan uwch arweinwyr yn y darparwyr a’r partneriaethau yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol yn dilyn y cyfnod a nodwyd yn adran thematig yr Adroddiad Blynyddol 2019-2020. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn helpu llywio adolygiadau thematig o ddulliau dysgu cyfunol a lles dysgwyr, i’w cyhoeddi yn ddiweddarach yn ystod tymor y gwanwyn 2021.

Canfyddiadau allweddol

Symud ymlaen gyda dysgu cyfunol

Ers y cyfarfodydd ymgysylltu diwethaf gyda darparwyr ôl-16 ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020, mae darparwyr a’u hathrawon, hyfforddwyr ac aseswyr, wedi wynebu heriau digynsail yn cefnogi eu dysgwyr i nid yn unig ddatblygu eu medrau a’u gwybodaeth, ond rhoi lefelau sy’n cynyddu o hyd o gymorth personol.  Dywedodd pob darparwr eu bod wedi datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfnodau clo lleol neu achosion o COVID-19, a’u bod yn parhau i ddiwygio agweddau ar gyflwyno addysgu, hyfforddi ac asesu ar draws y sectorau.

Bu’n rhaid i rai lleoliadau i ddysgwyr dderbyn addysgu neu hyfforddiant wyneb yn wyneb gau o ganlyniad i gyfnodau clo lleol neu achosion positif o COVID-19.  Mae’r cyfyngiadau ar fynediad i weithleoedd dysgwyr yn parhau i fod yn rhwystr mawr, gyda darparwyr yn cynnig gweithgareddau ar-lein i gynnal ymgysylltiad a diddordeb dysgwyr.  Mae rhai partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned dim ond yn defnyddio lleoliadau sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, gan eu bod yn hyderus fod asesiadau a threfniadau risg iechyd a diogelwch priodol yn eu lle ar gyfer y rhain.

Dywed y rhan fwyaf o ddarparwyr dysgu yn y gwaith y byddent yn ymgorffori rhai agweddau ar ddysgu cyfunol mewn rhaglenni wrth symud ymlaen.  Mae ychydig o ddarparwyr o’r farn fod dysgu cyfunol yn hanfodol ar gyfer cyfnod argyfwng COVID-19, ond y dylai dysgwyr yn y gwaith ddychwelyd i’w gweithgareddau arferol ar ôl yr argyfwng.  Maent o’r farn y dylai’r model fod yn hyblyg neu, fel arall, ni fydd dysgwyr yn datblygu medrau cyflogaeth allweddol a hanfodol fel gweithio gyda phobl eraill, gweithio mewn tîm a medrau cyfathrebu. 

I fynd i’r afael â thlodi digidol, mae sectorau wedi ymateb trwy gael, benthyca ac archebu offer TG, ond mae problemau’n parhau am nad yw’r offer a archebwyd wedi cyrraedd (addysg bellach), ac mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn siomedig i beidio â derbyn cyllid tebyg ar gyfer offer y mae’r sector addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned wedi’i gael.  Mae’n her o hyd i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu manteisio ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â dysgu o bell. 

Dywed arweinwyr fod llawer o staff a dysgwyr wedi datblygu eu medrau digidol yn sylweddol yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.  Fodd bynnag, mae medrau digidol dysgwyr yn amrywio ym mhob sector a gallant fod yn rhwystr i rai dysgwyr.  Yn yr un modd i staff, er y bu’r sectorau yn ymatebol o ran trefnu sesiynau hyfforddi a defnyddio’r Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) i gefnogi hyfforddi ‘diemyntau digidol’ neu hyrwyddwyr i hyfforddi aelodau staff eraill mewn dysgu yn y gwaith, addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned.  Mae llawer o ddarparwyr wedi diweddaru eu gweithdrefnau ymsefydlu ar gyfer dysgwyr newydd i gofnodi medrau digidol ac argaeledd offer TG.

Er ei bod yn ymddangos bod hyfforddiant staff yn canolbwyntio mwy ar ddefnyddio TG a datblygu adnoddau ar-lein, cafwyd llai o drafodaethau am ddylunio cyrsiau neu raglenni ac addysgeg dysgu cyfunol.  Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn cydnabod bod angen trafodaeth broffesiynol barhaus a dysgu am y dulliau gorau ar gyfer dysgu o bell a dysgu cyfunol.  

Dywed darparwyr fod llawer o ddysgwyr wedi ymgysylltu’n gadarnhaol â’r dulliau dysgu newydd.  Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae darparwyr yn mesur ymgysylltiad dysgwyr yn anghyson ar draws y sectorau.  Dywed arweinwyr a staff eu bod yn dechrau canolbwyntio mwy ar werthuso effaith strategaethau addysgu ar gynnydd, yn hytrach na dim ond nodi presenoldeb neu ymgysylltiad â deunyddiau.

Her allweddol ar raglenni a chyrsiau galwedigaethol yw cynnal ymgysylltiad a chymhelliant dysgwyr yn ystod cyfnodau clo neu gyfnodau hunanynysu.  Roedd y dysgwyr hyn yn dewis cyrsiau ymarferol, ac yn sgil yr argyfwng presennol, yn aml caiff yr agwedd hon ei hoedi neu’i lleihau yn sylweddol.  Dywed darparwyr nad yw dysgwyr lefel uwch sy’n dilyn rhaglenni lefel uwch, hyd yn oed y rhai sy’n dilyn cyrsiau a rhaglenni academaidd, efallai’n gwneud y cynnydd a ddisgwyliwyd ar y dechrau oherwydd bod rhesymau teuluol, fel gofal plant, yn cyfyngu ar eu hamser astudio.

Recriwtio a chofrestru

Mae recriwtio yn dangos amrywiadau diddorol ar draws ac o fewn sectorau a meysydd dysgu.  Pan fydd cofrestriadau mewn cyrsiau penodol, fel peirianneg, adeiladu neu drin gwallt a therapi harddwch, yn ymddangos yn uwch na’r hyn a ragwelwyd mewn colegau, priodolir hyn yn bennaf i lefelau isel o swyddi gwag  prentisiaeth o ganlyniad i’r pandemig parhaus.  Mewn dysgu yn y gwaith, mae amrywiad rhanbarthol mewn recriwtio ar draws meysydd dysgu.  Mae nifer o sectorau wedi cael eu taro’n galetach na rhai eraill, gan gynnwys peirianneg awyrenegol, lletygarwch ac arlwyo, ac mae amrywiadau rhanbarthol mewn peirianneg ac adeiladu.  Mae partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi’i chael yn anodd ymgysylltu â dysgwyr â lefelau isel o lythrennedd a Saesneg (cyn mynediad i lefel mynediad) ar gyrsiau dysgu o bell a dysgu cyfunol.  Y rheswm am hyn yw diffyg hyder mewn rhai achosion, a’r ffaith fod yn well ganddynt fod mewn ystafell ddosbarth gyda thiwtor lle maent yn teimlo’n fwy diogel.

Iechyd meddwl a lles dysgwyr a staff

At ei gilydd, dywed darparwyr eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar les dysgwyr a staff.  Er enghraifft, mae arweinwyr mewn colegau addysg bellach yn disgrifio’r modd y maent wedi trefnu bod ystod fwy o adnoddau lles ar gael i ddysgwyr.  Lle’r oedd yn briodol, ailgyflwynwyd gwasanaethau cymorth wyneb yn wyneb.  Cafwyd pryderon cynyddol ynghylch lles a diogelu mewn rhai colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith, ond nid mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned.  Yn aml, mae dysgwyr mewn dysgu yn y gwaith yn poeni ynghylch colli swydd a chael eu diswyddo.

Dywed darparwyr fod staff yn bryderus ynglŷn â dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb, ond eu bod wedi cael cymorth i’w helpu i oresgyn eu pryderon.  Ar draws darparwyr, cryfhawyd y cyfathrebu ymhellach yn ystod argyfwng COVID-19, ac mae rheolwyr ac arweinwyr yn cysylltu’n rheolaidd â staff i roi diweddariadau a chymorth. 

Cymwysterau

Dywed darparwyr eu bod yn parhau i weithio’n hyblyg i geisio creu pob cyfle i ddysgwyr gwblhau eu cymwysterau.  Mewn dysgu yn y gwaith ac mewn nifer fawr o gyrsiau coleg, mae dysgwyr wedi bod yn dilyn eu rhaglenni a’u cyrsiau hyfforddi yn hwy na’r disgwyl erbyn hyn.  Mae darparwyr dan bwysau cynyddol i wneud yn siŵr fod dysgwyr yn cwblhau’r gwaith mae angen iddynt ei wneud, yn enwedig i ffwrdd o’r gwaith, ac mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn lleihau capasiti gweithdai ac ystafelloedd dosbarth ymarferol yn fawr.  Mae arweinwyr yn pryderu am leoliad gwaith a dilyniant dysgwyr hyfforddeiaeth, gan fod cyflogwyr yn amharod i dderbyn y dysgwyr hyn ar gyfer profiad lleoliad gwaith.

Mae darparwyr yn codi pryderon am gamau lliniaru sefydliadau dyfarnu, fel goruchwylio medrau hanfodol o bell, a diffyg cytundeb ar gyfer asesu o bell.  Dywed arweinwyr nad yw sefydliadau dyfarnu wedi bod yn ddigon rhagweithiol yn addasu gofynion asesu i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol.

Dywedodd arweinwyr eu bod yn pryderu ynglŷn â’r ansicrwydd parhaus ynghylch trefniadau asesu ac arholi ar gyfer 2021, yn enwedig o ran cymwysterau galwedigaethol.  Mae darparwyr yn nodi bod tebygolrwydd cryf y bydd llawer o ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau ‘trwydded i ymarfer’ yn seiliedig ar fedrau yn parhau i beidio â gallu cwblhau’r cymwysterau hyn o fewn yr amserlenni disgwyliedig, o ganlyniad i anawsterau yn bodloni gofynion ymarferol gwaith a lleoliad.