Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |
Gwaith ymgysylltu: Addysg Gychwynnol i Athrawon diweddariad sector 2020-2021
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ymgysylltu a wnaed â’r holl bartneriaethau addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru rhwng mis Medi 2020 a mis Mehefin 2021. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd o bell ag arweinwyr partneriaethau, tiwtoriaid a mentoriaid ac athrawon dan hyfforddiant.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i lywio gan dystiolaeth o’r ffynonellau canlynol:
- Cyfarfodydd o bell ag arweinwyr partneriaethau, cynrychiolwyr ysgolion arweiniol partneriaeth a chynrychiolwyr myfyrwyr
- Cyfarfodydd o bell â staff partneriaethau a myfyrwyr yn ystod ymweliadau arbrofol o bell
- Trafodaethau â staff partneriaethau o ysgolion a phrifysgolion yn ein fforymau rhanddeiliaid