Swyddogaethau'r arolygwyr

Share this page

Arolygydd Cymheiriaid (AC)

Pobl â rôl reoli mewn ysgol neu ddarparwr, gyda phrofiad o addysgu neu hyfforddi.

A hwythau wedi’u recriwtio a’u hyfforddi gennym, mae Arolygwyr Cymheiriaid yn aelodau llawn o dîm arolygu ac yn cyfrannu at bob maes arolygu. Maent hefyd yn ysgrifennu rhannau o’r adroddiad arolygu.

Gallai AC ysgol arolygu ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.

Arolygydd Cofrestredig ac Arolygydd Cofrestredig Meithrin

Maent yn arwain arolygiadau ysgolion/lleoliadau cyn ysgol, gan gyflawni’r un rôl ag AEM.

Rydym yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn cadw rhestr o Arolygwyr Cofrestredig/Arolygydd Cofrestredig Meithrin ‘cymeradwy’ sy’n gweithio gyda ni dan gontract.

Arolygydd Ychwanegol (AY): Arolygydd Tîm

Yn annibynnol ac yn hunangyflogedig, maent yn ymuno â thimau arolygu sy’n cael eu harwain gan AEM neu Arolygwyr Cofrestredig.

Rydym yn hyfforddi arolygwyr tîm ac maent yn gweithio gyda ni dan gontract.

Gall rhai ohonynt hefyd fod yn Arolygwyr Cofrestredig neu’n AEM wedi ymddeol.

Arolygydd Ychwanegol: Secondai

Cânt eu secondio gan gyflogwr (e.e. ysgol neu awdurdod lleol) i weithio’n amser llawn fel arolygydd am gyfnod amser penodedig, hyd at ddwy flynedd fel arfer.

Byddant yn cyflawni’r un gwaith arolygu ag AEM, gan ymgymryd ag arolygon a gwaith arall yn eu meysydd arbenigedd.

Arolygydd Lleyg

Aelodau o’r cyhoedd a staff ein gwasanaethau corfforaethol a hyfforddir gennym ni i ymuno ag arolygiad ysgol. Mae’r arolygydd lleyg yn canolbwyntio ar y profiad ysgol i ddisgyblion a’r cyfraniad a wna perthnasoedd a’r amgylchedd at eu diogelwch, eu hagweddau at ddysgu a’u lles.

Yn ôl y gyfraith, ni allant fod wedi’u cyflogi mewn ysgol, ond gallant fod wedi bod yn wirfoddolwr neu’n llywodraethwr.

Enwebai

Aelod staff wedi’i enwebu gan yr ysgol neu’r darparwr sy’n cael ei arolygu i gydweithio â’r tîm arolygu.

Nid yw’n aelod llawn o dîm arolygu ac ni fydd yn ‘arolygu’ nac yn gwerthuso’r ddarpariaeth.

Bydd yn mynychu’r holl gyfarfodydd arolygu ac yn sicrhau bod gan y tîm fynediad llawn i bob ffynhonnell dystiolaeth y mae ei hangen arno.

 

Rhan o Gweithio i ni