Rydym yn defnyddio Arolygwyr Cymheiriaid ym mron pob sector rydym yn ei arolygu. Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn gweithio fel uwch arweinwyr/reolwyr mewn ysgolion/darparwyr, ac rydym yn dyrannu Arolygwyr Cymheiriaid i hyd at dri thîm arolygu y flwyddyn. Maent yn aelodau llawn o’r tîm arolygu ac yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau arolygu, gan gynnwys arsylwi sesiynau, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweld â staff a drafftio rhannau o’r adroddiad arolygu.
I fod yn Arolygydd Cymheiriaid, rhaid i chi:
- gael eich talu ar y golofn gyflog uwch arweinyddiaeth
- bod mewn swydd barhaol
- meddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad arweinyddiaeth
- meddu ar o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu
Y tro nesaf y byddwn yn cynnal ymgyrch recriwtio ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid, byddwn yn hysbysebu hyn ar ein gwefan.