Datblygu ymwybyddiaeth disgyblion o’u cynefin
Datblygu ymwybyddiaeth disgyblion o’u cynefinNodwedd arbennig o waith yr ysgol yw’r modd y mae athrawon yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am draddodiadau, treftadaeth a hanes yr ardal leol. Er enghraifft, maent yn dysgu am draddodiadau lleol, fel trên y Cardi Bach a Chowbois Crymych sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn a balchder diwylliannol ymhlith disgyblion. Maent hefyd yn dysgu am gerddi Waldo a gwaith T.Llew Jones, yn dysgu enwau copaon amrywiol y Preselau ac yn ymfalchïo yn eu cysylltiadau lleol. Yn ogystal, mae’r disgyblion hŷn yn dysgu am agweddau cyfoes fel yr economi fwyd lleol. Mae’r gwaith hwn yn creu ymdeimlad cryf o berthyn a balchder ymysg disgyblion a staff. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth o weledigaeth yr ysgol a'i lle, ynghyd â'r ardal leol, o fewn Cymru ac yn y byd ehangach - ‘o’r gwreiddiau i’r gorwelion.’