Strategaeth ysgol gyfan i wella medrau darllen disgyblion - Estyn

Strategaeth ysgol gyfan i wella medrau darllen disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Bro Preseli

Disgyblion yn defnyddio adnoddau llyfrgell a thechnoleg mewn amgylchedd dysgu ysgol uwchradd.Provide your feedback on BizChat

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr 

Mae Ysgol Bro Preseli yn ysgol cyfrwng Cymraeg 3–19 oed, gyda 932 o ddisgyblion, wedi’i lleoli yng Nghrymych. Mae 6.9% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), ac mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned wledig eang. Mae’r ysgol yn elwa ar gyfleusterau cymunedol helaeth, gan gynnwys canolfan iaith, theatr, llyfrgell gyhoeddus a chyfleusterau chwaraeon, ac mae disgyblion yn cael eu hannog i ymuno â’r llyfrgell gymunedol sydd wedi’i lleoli ar safle’r ysgol. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer 

Mae’r ysgol wedi datblygu gweledigaeth glir, “O’r Gwreiddiau i’r Gorwelion”, sy’n llywio pob agwedd ar fywyd yr ysgol. Mae’r strwythur arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, dirprwy benaethiaid, yr uwch dîm arweinyddiaeth ac arweinwyr cyfnodau, medrau, meysydd dysgu a phynciau. Mae’r arweinyddiaeth hon yn sicrhau parhad a phontio cydlynol rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. 

Yn yr arolygiad diwethaf, nodwyd bod arweinyddiaeth strategol yr ysgol a’i strategaeth ysgol gyfan lwyddiannus i gryfhau llythrennedd, yn enwedig darllen, yn gryfder. Gwneir hyn drwy gynllunio cwricwlwm cydlynol gyda’r bwriad o sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da ac yn ffynnu’n gymdeithasol ac yn academaidd. Nodwyd hefyd bod yr ysgol yn ymateb yn sensitif i effaith tlodi gwledig drwy ddarpariaeth lles effeithiol a pherthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol 

Mae’r ysgol wedi rhoi strategaeth llythrennedd ysgol gyfan ar waith, wedi’i datblygu dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r strategaeth yn seiliedig ar: 

  • gydweithio â rhieni 
  • strategaethau ysgol gyfan 
  • ymyraethau pwrpasol 
  • blaenoriaethu systematig  
  • arloesi er mwyn meithrin diwylliant llythrennedd a darllen cadarn  

Mae darllen yn dechrau’n gynnar iawn gyda chynlluniau ffoneg Cymraeg ac, yn ddiweddarach, rhaglenni ffoneg Saesneg, sy’n cefnogi caffael medrau Saesneg ac yn galluogi staff i fonitro cynnydd yn rheolaidd. Mae’r ysgol yn sicrhau amrywiaeth eang o lyfrau i ddiwallu anghenion a diddordebau pob dysgwr. Mae’r sector cynradd yn elwa ar lyfrgell gynhwysfawr, tra bo disgyblion uwchradd yn cael mynediad at lyfrgelloedd yr Adran Gymraeg a’r Adran Saesneg. Defnyddir platfform ddigidol ysgol-gyfan i gofnodi’r testunau/llyfrau sy’n cael eu darllen gan y disgyblion yn yr ysgol ac yn y cartref. 

Datblygir diwylliant darllen drwy fentrau amrywiol, gan gynnwys clwb darllen wythnosol dan arweiniad y chweched dosbarth yn y cynradd, ymgyrchoedd cyfnewid llyfrau, ‘darllenathon’, a gweithgareddau creadigol llythrennedd a darllen. Mae cynllun cymar wythnosol rhwng disgyblion Blwyddyn 7 a Blwyddyn 12, gyda ffocws ar ddatblygu medrau darllen a deall. Cynigir cefnogaeth bwrpasol i rieni, yn enwedig rhieni di-Gymraeg, ar sut i gefnogi darllen yn y cartref. 

Er mwyn hyrwyddo darllen annibynnol, mae darllen dan arweiniad athro yn digwydd yn rheolaidd, gyda nofelau dosbarth cyfan sy’n cwmpasu ystod eang o themâu. Defnyddir dulliau a strategaethau darllen ysgol-gyan cytunedigi sicrhau ffocws a pharodrwydd dysgwyr. Ceir cyfleoedd cyson ar gyfer darllen grŵp a darllen cilyddol, gyda ffocws ar ehangu geirfa, dealltwriaeth a mwynhad. Mae datblygu’r uwch-fedrau darllen yn flaenoriaeth ysgol gyfan, gyda phob maes dysgu a phrofiad yn cynnwys tasgau sy’n cryfhau medrau crynhoi, cymharu, cyfuno, dehongli a gwerthuso. 

Ar gyfer disgyblion â medrau darllen is, darperir cefnogaeth ychwanegol drwy ymyraethau a rhaglenni datblygu darllen amrywiol, sy’n darparu cyfleoedd i deilwra ymyraethau ac ymateb yn uniongyrchol i anawsterau dysgwyr. Mae cydweithio clwstwr effeithiol yn cryfhau’r gwaith hwn, gan gynnwys diwrnodau llafar llawen i ddatblygu llafaredd, trafod nofelau, datblygu strategaethau darllen ar y cyd, a gwaith y gweithgor Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. 

Mae’r cydlynydd llythrennedd yn cydweithio â chydlynwyr meysydd dysgu a phrofiad ac arweinwyr pwnc i gynllunio cyfleoedd pwrpasol ac effeithiol i ddatblygu uwch fedrau darllen. Eleni, mae’r ysgol yn treialu cynlluniau i hyrwyddo diddordeb a phleser mewn darllen drwy gynlluniau darllen wedi eu creu gan ddau o brifysgolion Cymru. Mae cydweithio â nifer o bartneriaid allanol, ynghyd â buddsoddiad pwrpasol mewn dysgu proffesiynol i staff ac athrawon, yn atgyfnerthu ymrwymiad Ysgol Bro Preseli i ddatblygu darllen ar draws yr ysgol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd? 

Mae’r gwaith cydlynol hwn wedi arwain at welliannau sylweddol mewn safonau darllen, rhuglder, hyder a dealltwriaeth disgyblion. Gwelwyd cynnydd amlwg mewn brwdfrydedd a chyfranogiad disgyblion mewn trafodaethau llenyddol ynghyd ag ansawdd uwch yn eu llafaredd a’u medrau dadansoddol. Mae’r bartneriaeth gref rhwng y cartref a’r ysgol wedi meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddarllen ac wedi cryfhau ymgysylltiad teuluol. 

Mae’r amrywiaeth o brofiadau darllen, o ymyraethau wedi’u targedu i waith arloesol gyda phrifysgolion, wedi trawsnewid agweddau, hyder ac annibyniaeth disgyblion a staff. O ganlyniad, mae disgyblion yn dangos cynnydd yn eu medrau llythrennedd, eu dealltwriaeth a’u mwynhad o ddarllen ar draws y cwricwlwm.