Addasu darpariaeth yn ôl gofynion unigol yn ‘Canolfan y Bont’
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr sy’n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oes. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer o ysgolion cynradd partner eraill o Geredigion ac o Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol – 321 o ddisgyblion Meithrin i Flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy’n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).
Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na ddefnyddir y Gymraeg. Mae’r disgyblion yn cael eu ffrydio’n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg ail iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o ddisgyblion yn hawlio prydau ysgol am ddim (20.97% o ddisgyblion oed uwchradd a 31.7% o ddisgyblion oed cynradd). Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal ac mae 16 yn ofalwyr ifanc. Mae 10.1% o ddisgyblion ȃ Saesneg fel iaith ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Lleolir Canolfan y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle’r ysgol. Mae’r ganolfan yn chwarae rhan lawn o fewn yr ysgol, ac mae’r disgyblion ar gofrestr Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus ac yn cynnig parhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont, lle bo’n berthnasol ac ymarferol. Ar hyn o bryd, mae 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu adnodd Sgiliau Bywyd.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae Canolfan y Bont yn ganolfan adnoddau arbenigol sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a dwys a lluosog, rhwng 11 a 19 oed. Mae’r ganolfan yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion yng Ngheredigion ac mae wedi’i lleoli yn Ysgol Bro Pedr, yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae’n darparu cwricwlwm pwrpasol, eang a chytbwys mewn awyrgylch gofalgar. Yn ganolog i’r athroniaeth yw bod pob plentyn yn unigryw ac yn arbennig gyda’r potensial i wneud cynnydd a llwyddo.
Yn dilyn pandemig COVID, gweithredwyd Cwricwlwm Adferiad. Fe wnaeth y pwyslais ar les annog yr ysgol i fyfyrio ar ei harfer ac i ddatblygu ymhellach ddull sy’n canolbwyntio ar y person. Wedi’r cyfan, mae’r disgyblion yn dysgu’n wahanol, felly credwn y dylid eu haddysgu’n wahanol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Yn dilyn ymchwil sylweddol, penderfynwyd rhannu’r disgyblion yn dair carfan, oherwydd amrywiaeth eu hanghenion. Mae’r rhain yn seiliedig ar arddulliau dysgu unigol y disgyblion, eu diagnosisau cyfathrebu, meddygol, synhwyraidd a chorfforol, yn hytrach na’u hoedran cronolegol.
Ar y cyd â’r AALl, cynhyrchwyd ‘Map Darpariaeth’ sy’n amlinellu’n glir y ddarpariaeth gynhwysol, ychwanegol ac arbenigol sydd ar gael i bob carfan.
Yr Anturiaethwyr
Mae gan y disgyblion hyn anawsterau dysgu difrifol (ADD) ac maent yn dilyn Cwricwlwm Lled-Ffurfiol. Maent yn cael mynediad at gwricwlwm sy’n canolbwyntio ar sgiliau bywyd, sy’n datblygu annibyniaeth a swyddogaeth. Mae angen digon o ailadrodd arnynt i ymgorffori eu dysgu.
Y Darganfyddwyr
Mae gan y disgyblion hyn anawsterau dysgu cymhleth (CLD). Maent yn dilyn y Cwricwlwm Anffurfiol, dull sy’n cefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu. Yn ogystal â’u hanawsterau dysgu, efallai y byddant hefyd yn wynebu rhwystrau eraill rhag dysgu, megis anawsterau corfforol, cyflyrau meddygol, anhwylderau prosesu synhwyraidd, nam ar y golwg neu’r clyw, problemau cyfathrebu neu ASD.
Mae ein dysgwyr anffurfiol yn dal i fod yng nghyfnodau cynnar iawn eu dysgu a’u datblygiad ac maent yn dysgu orau pan fydd y cwricwlwm yn gysylltiedig â’u profiadau eu hunain a phan roddir cyfleoedd iddynt ailadrodd gweithgareddau a gor-ddysgu. Y nod i’r disgyblion hyn yw datblygu ‘dewis a llais’.
Y Fforwyr
Mae gan y disgyblion hyn anableddau dysgu dwys a lluosog (ADDL). Maent yn dilyn Cwricwlwm Cyn-Ffurfiol. Maent yn ymgysylltu yn ystod camau cynharaf dysgu ac maent yn dilyn dull dysgu personol sy’n rhoi perthnasoedd wrth wraidd eu cwricwlwm synhwyraidd. Mae cynlluniau gofal iechyd y disgyblion wedi’u hymgorffori’n ddi-dor yn eu trefn ddyddiol ac yn rhedeg ochr yn ochr â’u rhaglenni addysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r dull hwn wedi ein galluogi i roi lles wrth wraidd ein cwricwlwm. Mae pob disgybl wedi llwyddo i ffurfio perthnasoedd ymddiriedus a diogel ag aelodau o’u tîm staff craidd, sy’n hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau cyfathrebu, gwybyddiaeth, emosiynol a chymdeithasol.
Yr Anturiaethwyr
Mae’r disgyblion hyn yn cael mynediad at amserlen bwrpasol, sydd wedi eu galluogi i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae disgyblion yn cael mynediad annibynnol at eu dyfeisiau AAC i gyfathrebu. Maent i gyd yn gallu cyffredinoli eu sgiliau; er enghraifft, maent yn defnyddio’r til hunanwasanaeth yn hyderus yn yr archfarchnad.
Mae sawl disgybl yn y garfan hon wedi cael anhawster rheoleiddio eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol. Maent bellach yn hyfedr wrth adnabod eu hemosiynau, gan ddefnyddio’r Parthau Rheoleiddio, ac maent yn deall bod strategaethau i’w cyrchu i’w galluogi i hunanreoleiddio.
Y Darganfyddwyr
Mae’r Cwricwlwm Anffurfiol wedi galluogi ein cyfathrebwyr anieithyddol, sydd ag anawsterau dysgu cymhleth, i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, i archwilio eu hamgylchedd ac i wneud dewisiadau annibynnol. Maent yn gallu cychwyn rhyngweithiadau â staff cyfarwydd a’u cyfoedion.
Fforwyr
Mae disgyblion yn y garfan hon yn dilyn llwybr gwahanol ac maent yn cael eu hasesu drwy Lwybrau Dysgu. Maent wedi sefydlu perthnasoedd cryf â’u staff craidd. Maent yn cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithio dwys ac maent wedi datblygu eu dealltwriaeth o achos ac effaith.
I gloi, mae’r newidiadau i’n cwricwlwm wedi ein galluogi i hwyluso profiadau dysgu effeithiol, pwrpasol i’n holl ddisgyblion ac i rannu’r wybodaeth hon gyda’u rhieni.
O adroddiad yr arolygiad:
Mae Canolfan y Bont yn darparu amgylchedd dysgu eithriadol o gynhwysol ac ymatebol i ddisgyblion 11–19 oed ag anghenion dwys a chymhleth. Mae’r addysgu’n seiliedig ar egwyddorion personol a holistig, gan ystyried anghenion corfforol, gwybyddol ac emosiynol pob unigolyn. Yn sgil hyn, mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Rydym yn rhannu gweithgareddau dyddiol y disgyblion gyda’r rhieni drwy ap ar-lein. Mae’r rhieni hefyd yn gallu cael mynediad at asesiadau ffurfiannol eu plentyn drwy god QR. Gwahoddir rhieni i fynychu cyfarfodydd ‘Coffi a Sgwrs’ rheolaidd yn yr ysgol, i drafod cynnydd eu plentyn.
Mae cydweithwyr o’r awdurdod addysg lleol yn ymweld â’r ganolfan i arsylwi agweddau ar arfer dda ac mae hyn yn cael ei rhannu yn ystod cyfarfodydd rhwydwaith ein canolfannau adnoddau arbenigol.