Y gymuned
Mae’r ysgol yn chwarae rhan ganolog yn y gymuned ac yn meithrin partneriaethau cryf sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth â theuluoedd. Mae arweinwyr a staff yn hyrwyddo cyfathrebu agored ac yn darparu cyfleoedd rheolaidd i rieni gymryd rhan yn nysgu eu plant trwy weithdai, digwyddiadau ar y cyd a chymorth parhaus. Mae’r dull cynhwysol a gofalgar hwn yn helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn arwain at well presenoldeb ymhlith disgyblion a mwy o gyfranogiad gan rieni. Mae staff yn meithrin cysylltiadau ystyrlon â busnesau lleol, clybiau rygbi a sefydliadau diwylliannol, sy’n cyfoethogi profiadau dysgu disgyblion. Mae’r partneriaethau hyn yn galluogi disgyblion i ddatblygu medrau gwerthfawr, ymgysylltu â materion lleol ac ymfalchïo yn eu cymuned. Mae’r ysgol yn cyfrannu’n effeithiol at leihau anfantais trwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu a hyrwyddo tegwch i bob disgybl.