The Branas School - Estyn
Ysgolion annibynnol - Cyngor Sir Ddinbych

The Branas School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Cyfoethogi’r cwricwlwm trwy ddysgu rheolaidd yn yr awyr agored ac yn y gymuned

Mae Ysgol Branas yn darparu cwricwlwm cyfoethogi difyr sy’n ymestyn dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae disgyblion yn cael gwersi addysg gorfforol yn rheolaidd mewn canolfan hamdden leol ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau dysgu awyr agored, gan gynnwys dringo, caiacio a dringo trwy holltau cul. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol ag amgueddfeydd ac adeiladau hanesyddol i gefnogi eu dysgu ym meysydd y dyniaethau, ac yn defnyddio’r gymuned ehangach ar gyfer gweithgareddau ystyrlon a phwrpasol sy’n gwella eu lles ac yn datblygu medrau bywyd. Mae’r ysgol yn mabwysiadu dull hyblyg ac ymatebol, gan ddarparu profiadau sy’n ymateb yn dda i anghenion a diddordebau unigol disgyblion. Trwy’r gweithgareddau hyn, caiff disgyblion eu cymell i ddatblygu ystod eang o fedrau, gan gynnwys datrys problemau, cyfathrebu a gweithio mewn tîm. Mae’r cwricwlwm cyfoethog hwn yn cefnogi datblygiad personol disgyblion trwy eu galluogi i wynebu heriau hylaw, dysgu trwy brofi a methu a datblygu strategaethau i oresgyn anawsterau. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu gwydnwch, mwy o hunanddibyniaeth a gwell gallu i reoli eu hemosiynau. I lawer o ddisgyblion, mae’r ymddiriedaeth a roddir ynddynt i ymdopi ag amgylcheddau newydd ac ymddwyn yn barchus mewn mannau cyhoeddus yn meithrin eu hunanhyder yn llwyddiannus ac yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer dysgu pellach.

Manylion

Cyfeiriad

Branas Isaf
Llandrillo
Corwen
Denbighshire
LL21 0TA