Dysgu yn yr awyr agored
Mae disgyblion ar draws yr ysgol yn mwynhau cymryd rhan yn rhaglen addysg awyr agored yr ysgol ac yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Mae’r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau fel cerdded mynyddoedd, caiacio, medrau byw yn y gwyllt a hwylio. Drwy gymryd rhan yn y maes cwricwlaidd arloesol hwn, mae disgyblion yn datblygu gwydnwch, dyfalbarhad a hyder cynyddol. Maent yn cryfhau eu medrau cyfathrebu a gwaith tîm yn llwyddiannus ac yn siarad am y profiad ysbrydol o fod yn yr amgylchedd naturiol. Mae disgyblion yn cydnabod manteision y gweithgareddau hyn o ran eu hannog i fynd y tu hwnt i’w cylch cysur. Mae’r rhaglen yn dechrau ym Mlwyddyn 5 ac yn arwain at alldaith ym Mlwyddyn 10. Gall yr alldaith hon ddigwydd yn y Deyrnas Unedig neu dramor, er enghraifft dringo iâ yn Norwy neu gerdded pellter hir ym Moroco. Caiff yr alldeithiau eu harwain gan ddisgyblion ac maent yn eu paratoi ymhellach ar gyfer heriau bywyd fel oedolion.