Sylw arbennig: dileu rhwystrau, cyfoethogi cyfleoedd
Mae ymrwymiad cryf a pharhaus i degwch yn ganolog i ethos yr ysgol. Mae hyn yn amlwg yn y cwricwlwm, yn y trefniadau dyddiol ac yn yr ystod eang o brofiadau a gynigir i bob disgybl. Mae arweinwyr a llywodraethwyr yn defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) mewn ffyrdd arloesol ac wedi’u targedu i leihau effaith tlodi. Maent yn adolygu effaith strategaethau a ariennir drwy’r grant yn drylwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion disgyblion. Mae’r dull penderfynol a chreadigol hwn yn lleihau rhwystrau rhag dysgu ac wedi helpu i gau’r bylchau mewn cyflawniad.