Oaklands Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Rhondda Cynon Taf

Oaklands Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Hyrwyddo cynhwysiant

Mae arweinwyr yn gweithio’n effeithiol i sicrhau bod disgyblion a staff yn y dosbarth cymorth dysgu (LSC) yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Mae disgyblion a staff yn y dosbarth hwn yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn a chynhwysiant. Mae athrawon yn y dosbarth cymorth dysgu yn cydweithio’n agos i ddatblygu cwricwlwm sy’n cefnogi cynnydd disgyblion yn effeithiol. Maent yn defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau priodol i gefnogi datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn effeithiol. Yn ogystal, mae staff yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau creadigol a chorfforol.

Manylion

Cyfeiriad

Maes Y Deri
The Oaklands
Aberaman
Aberdare
CF44 6TF