Llanrhidian Primary School - Estyn
Cynradd - Dinas a Sir Abertawe

Llanrhidian Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Byd gwaith

Mae gan ddisgyblion o Flwyddyn 4 i Flwyddyn 6 amrywiaeth o swyddi yn yr ysgol sy’n cyfoethogi eu dealltwriaeth o fyd gwaith. Un enghraifft o hyn yw rhedeg Caffi Cynefin, caffi go iawn sy’n cael ei redeg gan ddisgyblion am un bore bob wythnos. Mae’r caffi hwn yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol ac mae nifer dda o bobl yn ymweld ag ef. Bob wythnos, mae grŵp gwahanol o ddisgyblion yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am redeg y caffi, gan ymgymryd â rolau fel rheolwr, is-gogydd, gweinyddion a staff sy’n gweini bwyd a diod. Mae’r gymuned leol yn hynod gadarnhaol am y ddarpariaeth hon ac mae aelodau o’r gymuned yn llenwi ffurflenni adborth y mae disgyblion yn eu gwerthuso ac yn gweithredu arnynt. Mae athrawon yn integreiddio gwaith y caffi i’r cwricwlwm, ac mae hyn yn darparu cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a chymdeithasol mewn sefyllfa ddilys. Mae disgyblion yn cadw cofnod o wariant ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i ddyrannu unrhyw elw a gynhyrchir ganddynt.

Manylion

Cyfeiriad

Llanrhidian
Gower
SA3 1EH