Datblygu tîm staff hynod effeithiol
Mae uwch arweinwyr yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i staff ar bob lefel ddatblygu’n broffesiynol a defnyddio’u medrau a’u harbenigedd. Maent yn gweithredu fel modelau rôl hynod effeithiol ac yn mentora cydweithwyr i arwain gwelliannau penodol. Mae arweinwyr yn gwneud defnydd gwerthfawr o gyfarfodydd staff rheolaidd i gynorthwyo athrawon i fyfyrio’n adeiladol ar eu harfer ac i feithrin dealltwriaeth glir o’r gwelliannau sydd eu hangen. O ganlyniad, mae'r ysgol wedi llwyddo i ddatblygu tîm staff hynod broffesiynol sy'n dangos gallu cryf i arwain ac arloesi'n effeithiol. Mae hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn cael effiath gadarnhaol ar ansawdd yr addygu ar draws yr ysgol. Mae gan yr ysgol hanes cryf o wella, gan gynnwys mewn perthynas â blaenoriaethau cenedlaethol fel gwella medrau Cymraeg disgyblion, datblygu cwricwlwm yr ysgol a chynyddu cyfraddau presenoldeb disgyblion.